Mae cofnod ar-lein o iechyd plant, o enedigaeth hyd at oedran gadael ysgol, wedi bod yn weithredol yng Nghymru ers bron ugain mlynedd.
Bydd y fersiwn ddiweddaraf, sef System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS), yn cael ei chyflwyno ar draws phob bwrdd iechyd yn ystod 2019. Cafodd y system ei hadeiladu gan ddatblygwyr meddalwedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’i dylunio i ddiwallu’r agenda trawsnewid.
Mae’r System Iechyd Plant yn cefnogi rhaglen Plant Iach Cymru Llywodraeth Cymru, sef y rhaglen imiwneiddio genedlaethol a gofynion adrodd statudol.
Caiff y rhaglen ei defnyddio i:
- Gofnodi imiwneiddiadau a weithredir gan feddygfeydd;
- Cofnodi imiwneiddiadau a weithredir mewn lleoliadau eraill (e.e. ysgolion neu glinigau ymwelwyr iechyd);
- Cofnodi hanes imiwneiddiadau plant sydd wedi symud i’r ardal;
- Darparu meddygfeydd â rhestrau o imiwneiddiadau plant sy’n weddill;
- Rhoi i gydlynwyr sgrinio ac imiwneiddio wybodaeth berthnasol ar gyfer brechu targedig mewn achosion a gadarnhawyd;
- Cynhyrchu llythyron i rieni / gofalwyr ynghylch apwyntiadau imiwneiddio.
Yn ogystal, mae’r system yn cefnogi trefnu apwyntiadau, cynhyrchu llythyrau apwyntiadau a chofnodi canlyniadau ar gyfer:
- Rhaglen Plant Iach Cymru;
- Iechyd Ysgol (Rhaglen Mesur Plant a gafodd ei sefydlu i ddeall yn well sut mae plant yng Nghymru’n tyfu ac i safoni’r ffordd mae plant ysgol cynradd yn cael eu mesur ledled Cymru);
- Iechyd Ysgol (Sgrinio Sain, Meddygol a Gweledol).
Mae ymarferoldeb newydd y system yn cynnwys dolenni integredig at:
- Wasanaeth Hysbysu Genedigaethau Cymru;
- Gwasanaeth Paru Cyfeiriadau Cymru;
- Gwasanaeth Demograffeg Cymru.