Neidio i'r prif gynnwy
Rhidian Hurle

Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol / Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol / Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru

Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol yw Mr Rhidian Hurle sy’n gweithio’n rhan amser ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru a Chyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru ym mis Mai 2015 cyn ymuno â’r awdurdod iechyd arbennig newydd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  

Wedi iddo raddio o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru Caerdydd ym 1995, fe wnaeth hyfforddiant llawfeddygol sylfaenol ac wrolegol uwch yng Nghymru. Yn 2008, dyfarnwyd MD i Rhidian o Brifysgol Caerdydd am ymchwil i ganser y prostad. Mae ganddo ddiploma ôl-raddedig hefyd mewn Addysg Feddygol (Prifysgol Caerdydd) a gradd Meistr â rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth Iechyd Digidol (Imperial) ac mae'n Gymrawd Sefydlol y Gyfadran Gwybodeg Glinigol.

Mae'n Athro Clinigol Anrhydeddus (Prifysgol Caerdydd) a chyn hynny, bu’n Diwtor Llawfeddygol yng Ngholeg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr. Mae Rhidian yn aelod o Gymdeithas Llawfeddygaeth Wrolegol Prydain (BAUS), Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin a Chymdeithas Wroleg Ewrop. Mae gan Rhidian brofiad helaeth mewn wro-oncoleg ac mae ganddo ddiddordebau is-arbenigol mewn rheoli canser y bledren arwynebol risg uchel.

Mae gan Rhidian ddiddordeb mawr mewn defnyddio technoleg fel galluogwr i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel gyda ffocws penodol ar ryngwynebau defnyddwyr. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth gydag ef ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i sbarduno gwella ansawdd ac effeithiolrwydd gofal iechyd. Mae ganddo rôl arwain allweddol mewn ymgysylltu clinigol â'r agenda ddigidol yng Nghymru ac mae ganddo'r cyfrifoldebau canlynol yn ei bortffolio

  • Gweithio i Wella 
  • Llywodraethu Gwybodaeth 
  • Diogelwch Cleifion ac Ymchwilio i Ddigwyddiadau 
  • Gwasanaethau Gwybodaeth 
  • e-lyfrgell y GIG 
  • Ymchwil ac Arloesi 
  • Sicrwydd Gwybodeg 
  • Newid Busnes