Neidio i'r prif gynnwy

Yr adroddiad atebolrwydd a'r cyfrifon

Yr adroddiad atebolrwydd a’r cyfrifon

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Mae’r Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol yn rhoi trosolwg o’r trefniadau a’r strwythurau llywodraethu a oedd ar waith ar draws Awdurdod Iechyd Arbennig Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ystod 2022/23. Mae’n cynnwys:

Y DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL

Mae hwn yn nodi’r trefniadau a’r strwythurau llywodraethu ac yn dwyn ynghyd sut mae’r sefydliad yn rheoli llywodraethu, risg a rheolaeth.

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR

Rhoi manylion y Bwrdd a’r Tîm Gweithredol sydd ag awdurdod neu gyfrifoldeb dros gyfarwyddo a rheoli prif weithgareddau’r Awdurdod Iechyd Arbennig yn ystod y flwyddyn. Darperir peth o’r wybodaeth a fyddai’n cael ei dangos yma fel arfer mewn rhannau eraill o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a thynnir sylw at hyn lle bo’n berthnasol.

DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU’R PRIF WEITHREDWR FEL SWYDDOG ATEBOL YR AWDURDOD IECHYD ARBENNIG

Mae’r Swyddog Atebol, y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid yn cadarnhau eu cyfrifoldebau wrth baratoi’r datganiadau ariannol a bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy. Rwyf yn gyfrifol am awdurdodi cyhoeddi’r datganiadau ariannol ar y dyddiad y cawsant eu hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.