Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad blynyddol

Adroddiad blynyddol 2022-23

Darparu technoleg ddigidol ar gyfer gofal gwell, cysylltiedig

Rhagair

Croeso i'n hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022/2023.

Simon Jones
Chair
Helen Thomas
CEO

Wrth i ni gwblhau ail flwyddyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig hoffem ddiolch i'n staff am eu cyfraniadau. Mae’n destun balchder mawr gweld y ffordd y mae staff yn addasu i heriau a chyfleoedd newydd, gan gadw gofynion cleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.

Mae gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru rôl unigryw, gan ddarparu’r systemau digidol a data cenedlaethol sy’n sail i’r gwasanaethau iechyd a gofal a ddefnyddir gan bob preswylydd yng Nghymru ar wahanol adegau yn eu taith iechyd a gofal.

Mae maint ein gwaith yn cynnwys systemau digidol, cofnodion iechyd electronig, cysylltedd, integreiddio a dadansoddeg data, sydd oll yn cyfrannu at y newidiadau trawsnewidiol sydd eu hangen ar gyfer iechyd a gofal cynaliadwy.

Dros y 12 mis diwethaf mae datblygiad gwasanaethau digidol mawr newydd wedi symud ymlaen yn gyflym. Datblygiadau i wella canlyniadau, cryfhau gwytnwch, cael gwared ar ôl-groniadau a helpu gyda mynediad at wasanaethau.

Dechreuodd y gwaith ar ddull cwbl ddigidol o ragnodi a rheoli meddyginiaethau ac aeth Ap GIG Cymru i mewn i gyfnod profion defnyddwyr. Bydd cam cyntaf yr Ap dwyieithog yn rhoi mynediad i bobl at amserlennu apwyntiadau, canlyniadau profion a phresgripsiynau rheolaidd, yn uniongyrchol o’r ddyfais symudol, neu o dabled neu liniadur.

Gyda gwasanaethau digidol at ddefnydd cleifion yn dod yn fwy a mwy amlwg rydym yn gweithio i alluogi cynhwysiant digidol yng Nghymru. Ym mis Medi roeddem yn falch o lofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn ein Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf, a ddaeth ag iechyd, gofal a’r sector gwirfoddol at ei gilydd i gydweithio ynghylch sut y gall offer digidol gefnogi a galluogi cynhwysiant digidol.

Gan adeiladu ar ein nod strategol i ehangu’r cofnod iechyd digidol, aeth cam cyntaf y system newydd i gefnogi gofal i gleifion canser yn fyw ym mis Tachwedd. Roedd gwelliannau i Borth Clinigol Cymru – cartref yr un cofnod iechyd digidol – yn cynnwys cofnodion electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer pobl â diabetes a’r rhai sydd angen gofal arennol.

Gan nad yw gwelliant fyth yn darfod, parhawyd i gyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru sydd wedi ennill sawl gwobr, ac sy'n galluogi nyrsys i ddefnyddio technoleg fodern i ddogfennu gofal cleifion.

Mae llawer i’w wneud o hyd, ac mae’r sector iechyd a gofal yn parhau i fod dan bwysau dwys yn dilyn y pandemig, a dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar bartneriaethau cynhyrchiol i greu systemau ystyrlon sy’n gosod profiad defnyddwyr a chleifion yn ganolog.

Mae elfen allweddol o’n gwaith hefyd yn cynnwys gwell defnydd o ddata i lywio sut y gall y GIG yng Nghymru wella canlyniadau iechyd a rheoli’r pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal iechyd yn ogystal â heriau poblogaeth sy’n heneiddio a mwy o bobl â chyflyrau lluosog.

Bydd y Platfform Adnoddau Data Cenedlaethol yn dod â data iechyd a gofal o bob rhan o Gymru ynghyd gan eu gwneud yn haws i’w rhannu a’u dadansoddi.

Dim ond cipolwg yw hwn o'r gwaith a wnawn, ac mae mwy o fanylion am ein portffolio cynyddol yn yr adroddiad hwn.

Fel sefydliad blaengar, roeddem yn falch iawn o ennill y Lle Gorau i Weithio ym maes TG yng Ngwobrau Diwydiant Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain y DU 2022; clod gwirioneddol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r bobl sy'n gweithio yma.

Edrychwn ymlaen at barhau â’n cynnydd dros y flwyddyn nesaf, gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf a chyfuno digidol a data fel pileri allweddol gwasanaeth gofal iechyd modern.

Adroddiad perfformiad

Yr adroddiad atebolrwydd a’r cyfrifon

Datganiadau ariannol