Neidio i'r prif gynnwy
Llun proffil o Sam Hall - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl
Sam Hall

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl

Mae Sam yn ymuno â ni o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru lle bu'n Brif Swyddog Digidol Cymru, y rôl gyntaf o'i math yng Nghymru. Yn ystod ei hamser gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, mae Sam wedi bod yn gyfrifol am ysgogi arloesedd, newid a gwella gwasanaethau ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol.

Daw Sam â dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol fel ei gilydd. Mae hi wedi cyflawni prosiectau gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ac roedd yn Brif Swyddog Digidol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cyn canolbwyntio ar adeiladu system Cyfrifiad 2021, yn gyntaf yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyflawni Digidol ac yna'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Dylunio Gwasanaethau.

Ar ôl penderfynu gadael y Gwasanaeth Sifil, symudodd Sam i weithio ym maes llywodraeth leol, gan ddod yn Brif Swyddog Gwybodaeth a Phennaeth TG a Digidol yng nghyngor dinas Birmingham, y cyngor mwyaf yn Ewrop.  Arweiniodd Sam y gwaith a alluogodd y cyngor i barhau i weithio o bell yn ystod COVID a sefydlodd dîm i wneud gwell defnydd o ddata a helpodd y cyngor i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.