Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg?

 

 

 

Mae'r Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg (ALP) yn gwrs modiwlaidd sy'n cynnwys ystafelloedd dosbarth rhithiol a labordai sgiliau i adeiladu galluoedd dadansoddeg cyfranogwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n un o nifer o fentrau sy’n cael eu cyflwyno gan y grŵp Dadansoddeg Uwch o fewn yr Adnodd Data Cenedlaethol i alluogi dadansoddeg gydweithredol ar draws ffiniau sefydliadol yng Nghymru.   

Mae ALP yn rhaglen fodiwlaidd, a ddarperir ar y cyd gan yr Adnodd Data Cenedlaethol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a KPMG. Addysgir modiwlau gan hyfforddwyr arbenigol o sefydliadau iechyd a gofal ledled Cymru, a chefnogir y rhain gan gynnwys dysgu digidol. Mae'r rhaglen a addysgir yn cael ei dilyn gan Hacathon cystadleuol sef pan fo’r rhai sy'n cymryd rhan yn archwilio, dylunio a datblygu dadansoddiadau blaengar, Prawf o Gysyniadau (PoC's). Bydd hyn yn arwain at gyflwyniad a digwyddiad gwobrwyo, pan gyflwynir atebion i banel o feirniaid sy’n arweinwyr ar draws Iechyd a Gofal yng Nghymru. 

Mae adborth cyfranogwyr yn amlygu cynnwys y rhaglen a’r cyfle i gydweithio sy’n arbennig o fuddiol i ddadansoddwyr sy’n cymryd rhan.  

Pa fodiwlau sy'n cael eu cynnwys? 

Mae modiwlau rhaglen yn seiliedig ar gymwyseddau dadansoddwyr craidd sy’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr allu trawsnewid ac arloesi yn y dyfodol. Wrth i'r maes dadansoddeg o fewn iechyd a gofal cymdeithasol ddatblygu, bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i ehangu ar y galluoedd a gyfoethogir gan y Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg. Mae llwybrau dysgu wedi’u teilwra i anghenion carfannau a grwpiau carfan penodol. Mae modiwlau craidd a dewisol wedi’u llunio i weddu i ddyheadau a setiau sgiliau cyfranogwyr.  

  • Chwilfrydedd a Gwrando Gweithredol
  • Gwybodaeth a Chyflwyniad Parth
  • Delweddu ac Adrodd Storïau gyda Data 
  • Delweddu Data (Power BI) 
  • Rheoli ac arwain tîm dadansoddol
  • Datblygu a Rhaglennu Ystwyth 
  • Datrys Problemau a Dadansoddi Uwch
  • Hanfodion SQL 
  • Rhaglennu gyda Python 

Ble ydyn ni nawr? 

Rydym bron â chwblhau’r rhaglen ar gyfer yr ail garfan. Mae dros 40 o gyfranogwyr wedi gweithio gyda’i gilydd drwy gydol haf a hydref 2022 i gwblhau’r sesiynau addysgu a chyflwyno datrysiadau prawf o gysyniad cyffrous fel rhan o’r Hacathon. Fe wnaeth y digwyddiad Cyflwyno a Gwobrau ar 23 Tachwedd roi cyfle i gyfranogwyr arddangos eu datrysiadau, a dewisodd y beirniaid dimau i dderbyn gwobrau. Ar yr un pryd, mae'r rhaglen ddysgu yn ehangu, ac mae modiwlau newydd yn cael eu creu ar gyfer dadansoddwyr cyllid.  

Mae gwaith darganfod hefyd ar y gweill i ddatblygu galluoedd dadansoddol sy'n gysylltiedig â Google Cloud Platform. Mae cynlluniau ar gyfer y carfannau nesaf wedi hen ddechrau, a bydd rhaglen ar gyfer yr academi gyllid yn cael ei lansio yn ystod gaeaf 2022. 

Manteision ar gyfer Cymru Iachach 

Mae’r Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg yn un o nifer o ffrydiau gwaith Dadansoddeg Uwch sy’n canolbwyntio ar alluogi dadansoddeg gydweithredol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gweithgarwch hwn yn sicrhau bod dadansoddwyr yn barod i ddefnyddio data a chynhyrchu mewnwelediadau a fydd yn fanteisiol i gleifion ac yn gwella canlyniadau.  

Mae defnyddio technoleg i gefnogi gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyfle allweddol a nodir yn y cynllun ar gyfer 'Cymru Iachach'. Bydd y Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg yn galluogi a helpu dadansoddwyr i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu data er mwyn cefnogi penderfyniadau clinigol gwell.