Pam dewisoch chi wneud prentisiaeth?
Dechreuais fy ngyrfa yn y GIG yn 2005 fel Swyddog Mewnbynnu Data i Atebion Iechyd Cymru (HSW) cyn derbyn swydd fel Swyddog Cymorth Cofnod Staff Electronig (ESR) yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar secondiad i ddechrau cyn iddi droi’n swydd barhaol yn 2010. Ar ôl saith mlynedd yn y rôl, symudais i’r tîm MPI (Prif Fynegai Cleifion) yn 2016.
Rydw i wedi llwyddo i wneud cynnydd yn seiliedig ar fy ngwybodaeth, sgiliau a phrofiad dros yr 17 mlynedd diwethaf, ond roeddwn i eisiau ennill y cymwysterau a'r hyfforddiant gofynnol i wella fy set sgiliau o fewn fy nhîm ac er mwyn datblygu. Roeddwn hefyd eisiau bod yn fwy hyblyg i newid, o fewn fy nhîm ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel ei gilydd.
Beth yw eich swydd? Sut mae'n gweithio gyda'r brentisiaeth/eich astudiaethau?
Mae fy rôl yn cynnwys datrys ymholiadau data demograffig, ymchwilio a datrys unrhyw faterion negeseuon a thechnegol, creu a phrofi codau ffynhonnell newydd ar gyfer negeseua a chwestiynau a chreu nifer o gyfarwyddiadau gweithio.
Mae fy nhîm wedi gallu fy nghefnogi gyda fy mhrentisiaeth trwy fy nghynnwys mewn ymholiadau a cheisiadau mwy cymhleth.
Pam ydych chi'n hoffi gweithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru?
Rwy’n mwynhau gweithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gan fy mod yn teimlo ein bod yn rhan annatod o GIG Cymru.
Er nad ydym yn darparu gofal cleifion yn uniongyrchol, rydym yn darparu’r seilwaith digidol a’r systemau i staff rheng flaen eu defnyddio, gan ddarparu cymorth cefndirol i bob pwrpas i’r staff hynny er mwyn sicrhau bod gofal cleifion o ansawdd uchel yn cael ei gyflawni bob amser.
Teimlaf fod fy rôl yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwneud gwahaniaeth gan fod ansawdd data demograffeg cleifion yn hollbwysig.
Mae ystod eang o opsiynau datblygu i mi ac eraill i gyflawni eu nodau o fewn DHCW.
Mae Stephen yn Ddadansoddwr Cymorth a Busnes yn y tîm Prif Fynegai Cleifion (MPI), fel rhan o’r tîm demograffeg a’r Adran Integreiddio a Chyfeirio (IRAT).