Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19: cymorth digidol i gleifion

 


Ap COVID-19 y GIG

Mae ap COVID-19 y GIG yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. Os byddwch chi'n dod i gysylltiad agos â defnyddiwr arall sy'n cael canlyniad prawf positif, bydd yr ap yn anfon rhybudd anhysbys atoch chi. Gallwch wirio'ch symptomau yn yr ap ac os ydyn nhw'n awgrymu y gallai fod coronafeirws gennych, mae'r ap yn ffordd hawdd o gael eich profi.

Am ragor o wybodaeth: https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig

 


Pàs COVID y GIG

Mae pobl yng Nghymru yn gallu dangos eu statws brechu ar-lein drwy Bàs COVID digidol y GIG nawr. 

Darllenwch y cyhoeddiad llawn gan Lywodraeth Cymru yma.

 


Profi Olrhain Diogelu

Mae gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn cynnwys nifer o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i atal lledaeniad y feirws - o Iechyd Cyhoeddus Cymru, i'r Byrddau Iechyd lleol a’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac eraill.  Mae'r partneriaid hyn yn gyfrifol am weithredu un o'r ymyriadau iechyd y cyhoedd mwyaf mewn cenhedlaeth. Y cyhoedd yw'r partner pwysicaf. Dim ond trwy eich parodrwydd i roi gwybod am eich symptomau, eich cysylltiadau a dilyn y cyngor ynghylch hunanynysu y byddwn yn gallu nodi achosion a mannau problemus newydd ynghylch coronafeirws.

https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws