Neidio i'r prif gynnwy

System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru

Mae hon yn system TG a ddefnyddir gan staff patholeg ledled Cymru i storio, cofnodi a chyfnewid gwybodaeth, fel canlyniadau profion gwaed.
 
Mae’r system hefyd yn cysylltu â’r peiriannau sy’n cynnal y profion a dadansoddi’r samplau.
 
Mae’r system yn gysylltiedig â dadansoddwyr sy’n gyfarwydd â chynhyrchu’r mwyafrif o brofion mewn labordai.
 
Ble mae’r WLIMS?

Caiff WLIMS ei gynnal yn ganolog, ond mae’n darparu’r gwasanaeth i bob labordy Bwrdd Iechyd Lleol a gwasanaethau cymorth arbenigol cenedlaethol eraill, gan gynnwys:

•    Haematoleg
•    Biocemeg
•    Imiwnoleg
•    Cytoleg Serfigol
•    Gwasanaethau Rheoli Heintiau
•    Gwasanaethau Corffdy
•    Trallwysiad Gwaed (i’w weithredu)
•    Haemonetics (olrhain gwaed) (i’w weithredu)

Sut mae WLIMS wedi gwella gwasanaethau?

Mae’r system genedlaethol wedi cyflwyno ymagwedd safonol at brofi. Mae’n caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol weld yr holl brofion blaenorol a gynhaliwyd  ar gyfer claf, a cheisiadau ar gyfer profion newydd, ni waeth ble maen nhw yng Nghymru.

Mae WLIMS yn cysylltu â Phorth Clinigol Cymru, ac mae’n cynnwys swyddogaethau i ategu:

•    Llywodraethu clinigol gwell
•    Hyblygrwydd, cludadwyedd a chymhwysedd darpariaeth gwasanaeth
•    Cynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoli galw gwell
•    Profiad cleifion gwell
•    Safoni’r gwasanaeth
•    Darparu gwybodaeth i Gofnod Meddyg Teulu Cymru