Mae hon yn system TG a ddefnyddir gan staff patholeg ledled Cymru i storio, cofnodi a chyfnewid gwybodaeth, fel canlyniadau profion gwaed.
Mae’r system hefyd yn cysylltu â’r peiriannau sy’n cynnal y profion a dadansoddi’r samplau.
Mae’r system yn gysylltiedig â dadansoddwyr sy’n gyfarwydd â chynhyrchu’r mwyafrif o brofion mewn labordai.
Ble mae’r WLIMS?
Caiff WLIMS ei gynnal yn ganolog, ond mae’n darparu’r gwasanaeth i bob labordy Bwrdd Iechyd Lleol a gwasanaethau cymorth arbenigol cenedlaethol eraill, gan gynnwys:
• Haematoleg
• Biocemeg
• Imiwnoleg
• Cytoleg Serfigol
• Gwasanaethau Rheoli Heintiau
• Gwasanaethau Corffdy
• Trallwysiad Gwaed (i’w weithredu)
• Haemonetics (olrhain gwaed) (i’w weithredu)
Sut mae WLIMS wedi gwella gwasanaethau?
Mae’r system genedlaethol wedi cyflwyno ymagwedd safonol at brofi. Mae’n caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol weld yr holl brofion blaenorol a gynhaliwyd ar gyfer claf, a cheisiadau ar gyfer profion newydd, ni waeth ble maen nhw yng Nghymru.
Mae WLIMS yn cysylltu â Phorth Clinigol Cymru, ac mae’n cynnwys swyddogaethau i ategu:
• Llywodraethu clinigol gwell
• Hyblygrwydd, cludadwyedd a chymhwysedd darpariaeth gwasanaeth
• Cynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoli galw gwell
• Profiad cleifion gwell
• Safoni’r gwasanaeth
• Darparu gwybodaeth i Gofnod Meddyg Teulu Cymru