Esboniodd Christian Smith, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, bydd arolwg defnyddioldeb newydd ar gyfer clinigwyr rheng flaen a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn yn cynnig cyfle i drafod dyluniad a defnyddioldeb systemau digidol ledled Cymru – a gallai dim ond wyth munud o’ch amser wneud gwahaniaeth mawr.
Fel y rhan fwyaf o weithwyr iechyd proffesiynol, rydw i wedi treulio oriau di-ri yn ymgodymu â'r systemau TG clinigol amrywiol rydw i wedi'u defnyddio yn fy ngyrfa. Mae rhai wedi fy ngwasanaethu’n dda. Ac eraill tipyn llai. Ond boed er gwell neu er gwaeth, roedd y systemau hyn bob amser yn cael effaith sylweddol ar fy mywyd gwaith a'm gallu i wneud fy swydd.
Nawr, yn fy rôl bresennol, rwy’n gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru i edrych ar gwestiwn mwy sylfaenol: hynny yw, sut rydym yn gwneud y gwelliannau hirdymor a’r buddsoddiad angenrheidiol fel bod y profiad o ddefnyddio system ddigidol yn gyson dda lle bynnag rydych yn gweithio yng Nghymru.
I mi, mae tri pheth yn wirioneddol bwysig. Yn gyntaf, mae arnom angen tystiolaeth dda, ddibynadwy sy'n dangos lle mae problemau neu wendidau; yn ail, mae angen newid meddylfryd fel ein bod yn edrych ar y byd yn gyson trwy lygaid y clinigwyr sy'n defnyddio'r dechnoleg yn ymarferol; ac yn drydydd, mae angen inni fesur a meincnodi perfformiad ein systemau yn barhaus o safbwynt defnyddwyr fel ein bod yn gwybod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim.
Am yr holl resymau hynny, rwy'n gyffrous iawn bod GIG Cymru ar fin lansio ei Arolwg Defnyddioldeb Systemau Digidol cenedlaethol cyntaf erioed yn ddiweddarach y mis hwn. Fel nyrs sydd wrth ei gwaith ar hyn o bryd, rydw i eisiau annog fy holl gydweithwyr ledled Cymru yn arbennig i gefnogi hynny – mae’n bwysig ein bod yn achub ar y cyfle hwn i ddweud ein dweud ar sut mae TG glinigol yn gweithio, ac i ddefnyddio ein llais i lunio ei dyfodol.
Ymhlith pethau eraill, mae’r arolwg yn ceisio deall cwestiynau megis:
Bydd eich atebion yn rhoi ffynhonnell gyfoethog o adborth i sefydliadau unigol i'w helpu i wella systemau'n lleol ac i feincnodi eu perfformiad yn erbyn eu cymheiriaid. Ar lefel genedlaethol, bydd y canlyniadau yn ein helpu i ymgysylltu â darparwyr digidol ar faterion ehangach y gallent eu gwella.
Mewn egwyddor, mae pawb yn gwybod pa mor bwysig y dylai ein systemau digidol fod fel ffordd o alluogi gofal diogel, effeithiol, cydgysylltiedig. Yn ymarferol, mae llawer ohonom hefyd yn gwybod y gallant fod yn araf, yn feichus ac yn gallu'ch trethu gyda phob trawiad ar fysellfwrdd.
Dyma gyfle i newid hynny. Drwy siarad am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, byddwch yn ein helpu i gasglu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wella ein systemau TG clinigol ar gyfer y dyfodol. Felly cymerwch ran yn yr ymchwil bwysig hon. Lledaenwch y gair i ni. A gwnewch yn siŵr bod y gymuned glinigol yn cael ei chlywed yn uchel ac yn glir yn y canlyniadau.
Bydd yr Arolwg Defnyddioldeb Systemau Digidol cenedlaethol yn cael ei lansio ledled Cymru ar 27 Mawrth 2023. Bydd yn agored i bob clinigwr sy'n defnyddio system ddigidol yn ei waith a bydd yn cymryd tua 8 munud i'w gwblhau.