Neidio i'r prif gynnwy

System ddigidol yn lleddfu'r boen o gael atgyfeiriad deintyddol

Cysylltodd John o Ben-y-Bont ar Ogwr â ni i roi gwybod i ni faint o argraff a gafodd y system Atgyfeirio Deintyddol ddigidol newydd arno. 

Meddai wrthym: “Gorfu i mi gael fy nghyfeirio at ganolfan ddeintyddol arbenigol er mwyn cael tynnu un o fy nannedd cefn ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhaid i mi aros wythnosau cyn clywed unrhyw beth. Ond, nid dyna oedd yr achos. Dim ond ychydig ddyddiau y bu’n rhaid i mi aros er mwyn sicrhau bod yr atgyfeiriad wedi’i dderbyn, ac yna llwyddais i allu dilyn fy atgyfeiriad drwy wefan a chysylltu â’r clinig deintyddol arbenigol.

Rhoddodd y deintydd URL y wefan i mi yn ogystal â chod cyfeirio arbennig. Es ati i nodi hynny ar y wefan ac roedd fy holl fanylion yno i mi allu eu gweld.

O fewn tri diwrnod o weld fy neintydd fy hun, cefais apwyntiad i gael tynnu fy nant.  Mae hwn yn wasanaeth arbennig, ac mae’n gyflym ac yn hawdd.  Gwnaeth wir wneud i mi wenu.

Bellach, rydw i wedi cael tynnu’r dant a hoffwn ddweud bod Cambria Dental Practice yn Abertawe yn dda iawn ac yn effeithlon.”

https://www.dental-referrals.nhs.wales/cy/