Mae ein prentisiaid WIDI wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn ystod pandemig COVID-19.
Cawson ni sgwrs ag Ethan Needham a ddechreuodd fel prentis NWIS tua diwedd 2019. Dywedodd wrthym am sut mae wedi bod yn rhan o'r gwaith hanfodol o alluogi staff i gael mynediad o bell i rwydwaith y GIG yn ddiogel, a'r hyder ychwanegol y mae wedi'i fagu ynddo'i hun o ganlyniad i hynny. Cymerwch gip.
CWESTIWN: Sut glywsoch chi am ein cynllun prentisiaethau a phryd ddechreuoch chi?
Ateb: Dechreuais i ar 2 Medi 2019. Clywais i am y cyfle gan fy mam. Mae hi'n gweithio i WAST (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru) ac mae ganddi ffrindiau sydd wedi gweithio yma. Clywodd hi fod sawl prentisiaeth ar gael gydag NWIS (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) a dywedodd hi wrtha i amdanyn nhw. Felly edrychais i ar y wefan i ddod o hyd i'r manylion a gyda phwy y dylwn i gysylltu amdano fe.
CWESTIWN: Beth yw’ch swydd yn NWIS?
Ateb: Prentis seilwaith craidd yw fy rôl i, sy'n fy ngalluogi i dreulio amser gyda'r gwahanol dimau ym maes seilwaith yn dysgu sgiliau newydd. Yna bydda i’n gallu dewis meysydd penodol sydd o ddiddordeb mawr i mi a bydda i’n treulio mwy o amser gyda nhw.
CWESTIWN: Ydych chi’n gwneud gwaith prifysgol ar-lein? Os ydych, sut mae’r brifysgol a’ch rheolwr yn NWIS wedi’ch cefnogi chi?
Ateb: Dydy fy ngwaith prifysgol ddim yn cael ei wneud yn gyfan gwbl ar-lein. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y pynciau wedi gorffen eu holl ddeunydd cynlluniedig ac felly doedd dim angen sicrhau bod unrhyw ddosbarthiadau ar-lein ar gael. Mae pob un o'r darlithwyr wedi rhyddhau aseiniad ar gyfer eu pynciau ac wedi pwysleisio, os oes gennym unrhyw broblemau neu os oes angen help arnon ni, i gysylltu â nhw trwy e-bost. Mae fy narlithwyr prifysgol wedi fy nghefnogi i drwy fod ar gael yn gyson trwy e-bost. Os bydda i angen arweiniad neu help, mae e bob amser ar gael. Nid oes angen i fy rheolwr NWIS fy nghefnogi drwy'r cyfnod hwn, yn bennaf oherwydd bod y brifysgol wedi ysgwyddo pwysau llawn y gefnogaeth honno. Hefyd, mae cysylltiadau rhwng NWIS a'r brifysgol ac maen nhw’n cynnal cyfarfodydd misol i sicrhau bod y grŵp o brentisiaid i gyd yn iach ac maen nhw'n gofyn i ni a oes angen unrhyw gymorth ar unrhyw un ohonon ni. Fodd bynnag, mae fy rheolwr hefyd wedi dweud yn glir, os oes angen help arna i gydag unrhyw beth neu os bydda i’n ei chael hi’n anodd, yna galla i siarad ag ef.
CWESTIWN: Pa rannau o'ch gwaith i NWIS sydd wedi bod yn ymwneud â'r pandemig?
Ateb: Un o'r darnau mwy o waith roeddwn i wedi bod yn cyfrannu ato oedd sicrhau y gallen ni ganiatáu i holl staff GIG Cymru gael mynediad i rwydweithiau'r GIG trwy VPN yn ddiogel ac yn ddibynadwy yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn i'n dweud bod y gwaith hwn wedi bod yn hanfodol wrth ganiatáu i'r holl staff hynny sy'n gallu gweithio gartref wneud hynny ac iddyn nhw gyflawni unrhyw dasgau sydd eu hangen arnyn nhw.
CWESTIWN: Ydych chi'n teimlo'n fwy hyderus ynddoch chi'ch hun ar ôl gweithio yn y sefydliad ar adeg mor heriol?
Ateb: Rwy'n bendant yn teimlo'n llawer mwy hyderus ynof fi fy hun ar ôl gweithio yn ystod yr amser hwn. Mae hyn yn bennaf oherwydd y pwysau gwaith ychwanegol sydd wedi bod. Mae hyn wedi rhoi llawer mwy o brofiad i mi gyda gwahanol fathau o waith nag y byddwn i fel arfer wedi’i gael. Bydd hyn yn help mawr i mi wrth ymgymryd â thasgau yn y dyfodol oherwydd bod siawns fy mod i o bosibl wedi ymwneud ag ef yn ystod y cyfnod hwn.