Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol (GPC) Cymru yn cymeradwyo cais gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i roi mynediad at Gofnod Meddygon Teulu Cymru i wasanaethau Dewis Fferyllfa.

Mae GPC Cymru wedi cymeradwyo cais mynediad gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i Gofnod Meddygon Teulu Cymru (WGPR) mewn modiwlau ychwanegol o'r cymhwysiad Dewis Fferyllfa.

Mae Dewis Fferyllfa yn gymhwysiad DHCW sy'n cefnogi pob fferyllydd cymunedol sy'n darparu gwasanaethau clinigol yng Nghymru, yn recordio ymgynghoriadau, yn rhannu gwybodaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol, ac yn cynhyrchu hawliadau am daliad.  Ar hyn o bryd, mae'r cymhwysiad Dewis Fferyllfa yn fyw mewn 705 o safleoedd (98% o'r holl fferyllfeydd) ledled Cymru.

Wrth i GIG Cymru symud i weithredu strategaeth ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru, a darparu mwy o ofal yn nes at y cartref, mae'r ystod gynyddol o wasanaethau clinigol y GIG a ddarperir gan fferyllwyr cymunedol yn gofyn am fynediad at gynnwys WGPR i gefnogi gwneud penderfyniadau clinigol diogel ac effeithiol ac i sicrhau diogelwch cleifion.

Bydd rhoi mynediad i Dewis Fferyllfa at swyddogaethau Cofnod Meddygon Teulu Cymru yn galluogi defnyddwyr fferylliaeth gymunedol i gael mynediad sy’n caniatáu darllen WGPR yn unig, gan gynnwys y gallu i fewngludo gwybodaeth mewn fformat y gellir ei ddarllen yn unig. Mae mynediad i WGPR wedi'i gyfyngu i ddefnyddwyr fferylliaeth gymunedol sydd wedi'u hachredu'n briodol, ac mae pob mynediad yn cael ei fonitro gan y Byrddau Iechyd trwy'r Teclyn Archwilio Integredig Deallus Cenedlaethol (NIIAS).

Mae WGPR eisoes wedi’i ymgorffori ym modiwlau Cyflenwi Meddyginiaethau Brys Dewis Fferyllfa a Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol Dewis Fferyllfa.  Gall defnyddwyr Fferylliaeth Gymunedol gael mynediad i wybodaeth WGRP am glaf ddim ond pan fyddant yn darparu gwasanaeth i’r claf hwnnw.

Bellach, mae cytundeb GPC Cymru yn golygu y gellir datblygu Dewis Fferyllfa i gynnwys mynediad i WGPR i’r holl fodiwlau presennol a’r rhai fydd ar gael yn y dyfodol ac fe fydd natur mynediad yn destun ystyriaeth gan Grŵp Cyfeirio Clinigol (CRG) Dewis Fferyllfa yn seiliedig ar yr angen clinigol a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).  Bydd mynediad yn cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Rhaglen Ddigidol Fferylliaeth Gymunedol.

“Mae GPCW yn credu bod rhannu gwybodaeth glinigol gyda phobl eraill sy’n rhoi gofal i gleifion er budd pennaf ein cleifion. Rydym yn dawel ein meddyliau y bydd Teclyn Archwilio Integredig Deallus Cenedlaethol yn weithredol yn y modiwl Dewis Fferyllfa a’i fod yn diogelu data cleifion.  Yn y pen draw, rydyn ni, fel rheolyddion data a meddygon, yn gyfrifol am gyfrinachedd a diogelwch data yn y system meddygon teulu.  Mae NIIAS yn sicrhau cydymffurfiad ag egwyddorion GDPR a llywodraethu gwybodaeth”

 - Dr Phil White, Cadeirydd GPC Wales.

Dywedodd Suzanne Scott-Thomas, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Ceisiadau Digidol Fferylliaeth Gymunedol:

“Hoffem ddiolch i GPC Wales am barhau i gefnogi ymdrechion Fferylliaeth Gymunedol i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion, ac am gymeradwyo gwelliannau digidol i'r system Dewis Fferyllfa sy'n cefnogi ein Fferyllwyr Cymunedol i wneud penderfyniadau clinigol.”

Croesawodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru y cytundeb, ac fe ddywedodd:

“Mae’r cytundeb rhwng GPC Wales a Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gam pwysig ymlaen o ran rhoi mynediad i fferyllwyr sy’n gweithio yn y gymuned i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn iddyn nhw ddarparu gofal fferyllol o’r safon uchaf.  Mae rhoi mynediad ehangach i fferyllfeydd cymunedol i Gofnod Meddygon Teulu Cymru yn cydnabod y cyfraniad clinigol cynyddol y gall fferyllwyr cymunedol ei wneud i wella iechyd pobl Cymru.”