Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Argraffu a Reolir o fudd i brosesu presgripsiynau

Fel gyda nifer o weithrediadau TG, disgwylir rhai o’r buddion ar unwaith, mae rhai eraill yn ymddangos ar ôl i’r gwasanaeth fod yn weithredol am beth amser, gyda chanlyniadau syfrdanol.  Mae peilot diweddar y gwasanaeth argraffu a reolir wedi bod o fudd nid yn unig ar lefel meddygfeydd, ond yr holl ffordd drwodd i’r Bartneriaeth Cydwasanaethau. Dyma’r sefydliad sy’n prosesu ceisiadau presgripsiwn ar ôl iddynt gael eu gweinyddu yn y fferyllfa.
 
Mae’r gwasanaeth argraffu a reolir yn darparu peiriannau argraffu dibynadwy, cynaledig ar gyfer meddygfeydd, sy’n dibynnu ar beiriannau argraffu i gynhyrchu presgripsiynau i gynorthwyo gofal cleifion. Mae’r gwasanaeth sythweledol hefyd yn cydnabod pan fydd angen cetris newydd ar gyfer y peiriannau, a bydd yn dosbarthu cetris newydd fel mater o drefn i feddygfeydd. 
 
Mae adran Gwasanaethau Gofal Sylfaenol y Cydwasanaethau yn gyfrifol am ddal data yn amserol a chywir, am bob presgripsiwn y GIG a weinyddir yng Nghymru. Defnyddir y data i gyfrifo’r ad-daliad sy’n ddyledus i fferyllfeydd, contractwyr teclynnau, meddygon gweinyddu a meddygon teulu sy’n gweinyddu meddyginiaeth yn bersonol ar gyfer dyfeisiau meddygol a meddyginiaethau y maent yn eu gweinyddu yn erbyn presgripsiynau’r GIG.
 
Mae ansawdd argraffu gwell, o ganlyniad i’r gwasanaeth argraffu a reolir, wedi cael effaith ar y gallu i ddarllen cod bar presgripsiynau trwy sganwyr y Cydwasanaethau, fel yr esboniodd Simon Johnson-Reynolds:
 
“Rydym ni’n sganio’r ffurflen ac yn darllen y data o’r cod bar. Mae hyn yn caniatáu i ni ddadgodio’r presgripsiwn a’i rag-broses mewn nifer o achosion”
 
Gall y sganwyr brosesu oddeutu 20,000 o bresgripsiynau bob awr, ac mae’r swyddfa’n ymdrin ag oddeutu 3 miliwn presgripsiwn y mis.
 
Amlinellodd Matthew Wallace y broblem, “Ar gyfartaledd, nid oes modd darllen oddeutu 9% o’r presgripsiynau, am ba bynnag reswm.”
 
Amlinellodd Simon ymhellach yr effaith a gaiff hyn, “Mae’n arwain at y ffurflen yn mynd drwodd fel eitem heb ei sganio. Ac, yn gyffredinol, mae’n golygu bod rhaid i swyddog prosesu ychwanegu’r holl ddata ar y ffurflen â llaw. Yn amlwg, mae hyn yn cael effaith ar y gweithlu ac ar amser.”
 
Pan fyddwch yn ystyried swmp y presgripsiynau bob mis, mae hynny dros chwarter miliwn o bresgripsiynau sydd angen eu hychwanegu â llaw, sy’n cael effaith enfawr ar adnoddau.
 
Myfyriodd Matthew ar feddygfeydd y peilot, gan gynnwys meddygfa Penybryn, a oedd yn destun astudiaeth achos flaenorol. “Roedd cyfradd heb eu darllen y feddygfa yn 7% cyn ymuno â’r peilot. Mae hyn wedi gostwng i oddeutu 2% nawr, felly mae’n welliant mawr.”
 
Dywedodd Simon, “Trwy wella’r ansawdd argraffu, mae’n golygu bod mwy o’r ffurflenni rydym ni’n eu derbyn yn cael eu sganio a’u darllen y tro cyntaf y cânt eu rhoi trwy’r sganiwr.”
 
Mae canlyniadau’r peilot gwasanaeth argraffu a reolir wedi bod yn gadarnhaol, a bydd yn dechrau cael ei gyflwyno ledled Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.