Neidio i'r prif gynnwy

Blog: Sut mae Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd yn Gweithio (DSPP)

Dull Cyflawni Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP)

Mae'r rhaglen DSPP yn rhan o Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Mae'r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â Kainos i ddatblygu Ap GIG Cymru.  Rydym wedi sefydlu'r berthynas i deimlo fel un tîm: tîm Ap GIG Cymru, waeth beth fo'r sefydliad.  Rydym wedi ceisio dileu rhwystrau a gwahaniaethau rhwng Kainos ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru cymaint â phosibl.  O fewn y dull tîm hybrid hwn rydym yn cadw'r swyddogaeth cwsmeriaid deallus.  Mae gennym dîm craidd o bobl sy'n comisiynu'r gwaith a thîm cyflawni, a ddarperir yn bennaf gan Kainos, sy'n gwneud y gwaith o ddatblygu meddalwedd a rheoli rhyddhau.

Dull Datblygu DSPP
 
Mae sbectrwm ar gyfer prosiectau digidol.  Ar un pen y sbectrwm, gallwch ddechrau â set o ofynion a chaffael system barod a'i ffurfweddu i fodloni'r gofynion orau.  Ar pen arall y sbectrwm, gallwch adeiladu rhywbeth yn fewnol.  Yng nghanol y sbectrwm, gallwch brynu datrysiad wedi'i deilwra'n rhannol gyda rhywfaint o ddatblygiad.  Rydym agosaf at y dull hwn ond rydym wedi addasu'r model ymhellach.  Rydym wedi dechrau gyda chod Ap y GIG o Loegr (diolch i NHS Digital) ac wedi caffael adnoddau datblygu arbenigol gan Kainos i wneud y newidiadau angenrheidiol i ni fel y bydd yr Ap yn gweithio'r ffordd rydym am iddo wneud yng Nghymru.   

Un o'r pethau sy'n gymharol unigryw am y ffordd rydym wedi sefydlu ein ffyrdd o weithio gyda Kainos yw bod pawb yn gweithio'n llawn o fewn amgylchedd datblygu meddalwedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Nid yn unig y mae Kainos yn dod â'i arbenigedd, mae’n defnyddio offer Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Yn draddodiadol, byddai cwmni allanol yn defnyddio ei offer ei hunan, yn adeiladu datrysiad ac yn ei anfon draw pan fyddai’n barod.  Byddai hyn wedyn yn cael ei brofi, gan arwain at fynd yn ôl ac ymlaen a chostau ac oedi cysylltiedig.  

Ar gyfer DSPP ac Ap GIG Cymru, mae amgylchedd Microsoft DevOps sy'n sail i'r rhaglen DSPP o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Mae'r datblygiad yn ystwyth gyda phrofion ar bob cam o'r broses.  Drwy weithredu fel hyn, gall unrhyw un yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru gael mynediad i amgylchedd DevOps a gweld y gwaith sydd ar y gweill, hyd yn oed cael mynediad i'r sylfaen cod os oes ganddynt y caniatâd cywir.  

Mae manteision y dull hwn yn enfawr.  Mae'n creu llawer mwy o gyfleoedd i drosglwyddo sgiliau yn ogystal â chyflwyno hylifedd rhwng adnoddau allanol a mewnol.  Mae hefyd yn lleihau'r ddibyniaeth ar gyflenwyr penodol.  Mae hyn yn ei dro yn caniatáu i'r rhaglen fod yn hyblyg yn fasnachol o ran sut y caiff y cynnyrch ei ddatblygu, ei ddarparu a'i gefnogi a phwy sy'n cyflawni'r rolau hyn.

Sefydlu Ap GIG Cymru

Mae newidiadau i'r cod yn cynnwys gwneud yr Ap yn gwbl ddwyieithog.  Rydym wedi gweithio'n galed i wneud i'r Ap edrych yn dda a pherfformio'n dda waeth beth fo'r dewis iaith.  Mae gan ddefnyddwyr y gallu i newid rhwng iaith ar bob sgrin yn Ap GIG Cymru.  Rydym hefyd yn cefnogi'r weledigaeth ar gyfer DSPP o adeiladu ecosystem dechnegol sy'n caniatáu i wahanol gyflenwyr ddarparu eu cynigion gwasanaeth o fewn amgylchedd y rhaglen DSPP.  Gellir cael mynediad i’r cynhyrchion masnachol hyn drwy Ap GIG Cymru sy'n darparu porth i’r gwasanaethau.  Mae hyn yn allweddol wrth wrthdroi tirwedd ddigidol sy'n wynebu cleifion sy'n fwyfwy dryslyd ar draws y GIG yng Nghymru. 
 
Rydym yn dadgyfuno'r cynigion gwasanaeth trydydd parti hyn ychydig yn fwy nag yn Lloegr.  Mae hyn yn golygu nad ydym yn bwriadu integreiddio datrysiadau llawn y Cofnodion Iechyd Cleifion (PHR) sy'n ceisio darparu'r holl swyddogaethau ar gyfer pob claf ar gyfer pob angen.  Mae gennym ychydig mwy o ymarferoldeb yn y cymhwysiad craidd a mwy o gyfle i arloesi arbenigol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yn benodol sy'n ymwneud ag anghenion gofal penodol.  Ar gyfer gwasanaethau cyffredinol, megis trefnu apwyntiadau, bydd y rhain yn rhan o'r cymhwysiad craidd.  Lle mae'r gwasanaeth efallai'n fwy arbenigol, megis cyflwyno canlyniad prawf mewn arbenigedd clinigol penodol, efallai y bydd angen arbenigedd pwnc i roi cyd-destun i ganlyniadau'r profion.  Gall hyn gael ei ategu gan ddatrysiad digidol trydydd parti a gallai hyn hyd yn oed fod yn gymhwysiad gwahanol mewn gwahanol fyrddau iechyd ledled Cymru.
 
Mae profion yr Antigen Penodol i’r Prostad (PSA) yn un enghraifft lle gall datrysiadau digidol ychwanegu gwerth sylweddol, gan gefnogi pobl wrth iddynt hunanreoli a chyda hunan-brofi, cofnodi canlyniadau ac olrhain eu hiechyd.  Gall y gofal hwn gael ei gefnogi gan ‘Patients Know Best’ mewn un ardal neu Fy Nghofnod Meddygol mewn ardal arall.   Mae hyn yn golygu bod arnom angen y gallu i newid rhwng gwahanol gyflenwyr ar lefel micro, o bosibl i lefel cleifion.  Mae'r cymhlethdod ychwanegol hwn yn cynnig buddion gan ei fod yn cefnogi marchnad fywiog, gan annog arloesi.  Mae hefyd yn lleihau'r risgiau a'r heriau masnachol a allai ddod yn sgil bod yn gaeth i un datrysiad gan gyflenwyr.   

Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r farchnad ganolbwyntio ar ychwanegu gwerth mewn meysydd iechyd a gofal penodol ac yn lleihau'r baich ar gyflenwyr mewn meysydd megis rheoli hunaniaeth, technolegau cyfathrebu (sms, e-bost, hysbysiadau gwthio) a demograffeg cleifion ac ati.


By Stephen Frith

Cyfarwyddwyr Rhaglen DSPP