Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth Achos: Drawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau

Pan gaiff cleifion eu rhyddhau o’r ysbyty, caiff gwybodaeth am y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt ei hanfon at eu meddyg teulu. Mae hyn yn angenrheidiol i gefnogi gofal parhaus claf.
 
Tan yn ddiweddar, roedd gwybodaeth rhyddhau yn bennaf yn broses ar bapur oedd yn cymryd amser a gallai olygu bod y claf yn cael ei ryddhau gryn amser cyn i’r nodyn cynghori yn ymwneud â’i ryddhau gyrraedd y meddyg teulu.
 
Erbyn hyn, mae’r broses ar gael fel gwasanaeth ar-lein. Gall staff iechyd mewn ysbyty ddefnyddio Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru i anfon gwybodaeth angenrheidiol yn syth at feddyg teulu’r claf. Gall y claf ofyn hefyd i’r wybodaeth am ei feddyginiaethau gael ei hanfon at fferyllfa gymunedol o’i ddewis.
 
Enw’r gwasanaeth hwn yw Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau ac mae’n rhan o Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru, sef y gweithle digidol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol o fewn yr ysbytai. Buom yn siarad â staff yn Ysbyty Gwynedd ynglŷn â’r gwasanaeth Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau.
 
Alison Jones yw’r arweinydd Diogelwch Fferyllol Cleifion yn yr ysbyty.  Dywedodd hi wrthym am y manteision y mae’r ysbyty wedi eu gwireddu ers cyflwyno’r system.
 
“Mae cyfathrebu wrth ryddhau o ysbyty yn hanfodol ar gyfer gofal da, diogel ac amserol,” meddai hi wrthym. “Mae’r llwyfan ar gyfer Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau o fewn Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru yn galluogi trosglwyddo gwybodaeth amserol rhwng yr ysbyty, y meddyg teulu a’r fferyllfa gymunedol.  Mae’r system yn hwyluso ffordd newydd o weithio’n amlddisgyblaethol gyda chofnodi a rhannu gwybodaeth electronig o’r adeg y derbynnir y claf i’r ysbyty ac ar hyd ei daith tuag at y cyfnod ar ôl ei ryddhau”.
 
Pam mae hyn yn bwysig?  Bydd Trawsgrifio Meddyginiaethau yn gwella’r dull o reoli meddyginiaethau trwy ganiatáu i fferyllwyr ysbytai drawsgrifio meddyginiaethau cleifion yn electronig, gan gymryd y wybodaeth oddi ar y siart cyffuriau ar waelod y gwely a’i rhoi ar Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru. Bydd hyn yn cefnogi cleifion o gyfnod eu derbyn i’r ysbyty hyd at eu rhyddhau.
 
Bydd E-ryddhau yn galluogi clinigwyr i gofnodi crynodeb am gyfnod y claf yn yr ysbyty y gellir ei anfon yn electronig at y meddyg teulu.
 

Mae’r system Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau wedi ei weithredu mewn sawl ward ledled Ysbyty Gwynedd ac mae clinigwyr yn teimlo bod y system yn ddefnyddiol tu hwnt.

 
“Mae’r system yn hawdd iawn i’w defnyddio,” meddai Claire Bishop, un meddyg ysbyty wrthym. “Roeddem ni i gyd wedi cael yr hyfforddiant ond doedd dim wir ei angen arnom, mae fel defnyddio’ch ffôn clyfar.”  Ychwanegodd, “mae adran ar y presgripsiwn, sydd ar gael i’r claf fynd adref gydag e, sy’n caniatáu i ni nodi pa feddyginiaethau nad yw’r claf yn eu cymryd mwyach ac mae hyn bron mor bwysig â dweud pa feddyginiaethau y mae’r claf yn dal i’w cymryd.”
 
Mae Elen Jones yn fferyllydd sy’n gweithio ar ward y plant. Nododd sut y mae Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau wedi newid pethau yn ei hadran hi “Roeddem arfer defnyddio ffurflenni rhyddhau papur. Ein targed oedd trosglwyddo’r wybodaeth hon i feddygon teulu o fewn 7 diwrnod. Gyda’r ffurflenni papur, roeddem yn llwyddo tua 6% o’r amser, ond ers newid i’r system  Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau rydym erbyn hyn wedi gweld 96% o wybodaeth am ryddhau cleifion yn cyrraedd y meddyg teulu o fewn 7 diwrnod.”
 
Aeth Alison Jones ymlaen i ddweud “Mae llythyr rhyddhau a gwybodaeth feddygol ar y cyd yn gallu cael ei anfon at y meddyg teulu bedair awr ar ôl i glaf gael ei ryddhau o’r ysbyty.  Mae hyn yn gwneud pethau’n fwy diogel ac yn fwy archwiliadwy sydd yn hwyluso gofal yn y dyfodol.”
 
Hyd yn hyn, mae’r system Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau wedi ei gweithredu yn Bryn Beryl (yr ysbyty cymunedol), y ward Pediatreg, Derbyniadau Meddygol a 6 ward meddygol yn Ysbyty Gwynedd gyda chynllun pellach yn cael ei weithredu.