Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae darganfod parhaus yn bwysig

Dydy adeiladu a gwella gwasanaethau iechyd digidol ddim yn waith untro. Mae cleifion a'u hanghenion yn newid dros amser, mae disgwyliadau'n esblygu, ac mae gwasanaethau'n parhau i ddatblygu ymhell ar ôl iddynt gael eu lansio.

Mae hyn yn golygu na ddylai dysgu am ddefnyddwyr fod yn gyfyngedig i gam darganfod prosiect yn unig. Er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus, mae angen i sefydliadau gael dealltwriaeth barhaus o sut mae gwasanaethau'n perfformio, ble mae defnyddwyr yn dod ar draws anawsterau, a ble gallai buddsoddiad yn y dyfodol roi'r budd mwyaf.

O fewn tîm Ap GIG Cymru, rydyn ni wedi mabwysiadu dull darganfod parhaus i'n helpu i wneud yn union hynny.

Symud y tu hwnt i ragdybiaethau

Mae pob tîm cynnyrch yn gwneud rhagdybiaethau. Rydyn ni’n gwneud rhagdybiaethau am yr hyn sydd ei angen ar gleifion, pa nodweddion sy'n gweithio'n dda, a ble mae'r cyfleoedd mwyaf i wella.

Mae darganfod parhaus yn ein helpu i brofi'r rhagdybiaethau hynny drwy ddefnyddio tystiolaeth.

Drwy gyfuno arolygon byr o fewn yr ap, dadansoddeg ymddygiad defnyddwyr ac ymchwil defnyddwyr, rydyn ni’n adeiladu darlun mwy cyflawn o sut mae cleifion yn defnyddio Ap GIG Cymru yn eu bywydau bob dydd. Yn hytrach nag aros i broblemau ddod i'r amlwg drwy gwynion neu fesurau perfformiad gwasanaeth, rydyn ni’n creu cyfleoedd rheolaidd i ddysgu'n uniongyrchol gan ddefnyddwyr.

Mae hyn yn ein galluogi i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar brofiadau cleifion, nid barnau cleifion.

Monitro sut mae gwasanaethau'n perfformio dros amser

Un o fanteision darganfod parhaus yw'r gallu i sefydlu mesurau sylfaenol clir ar gyfer profiad defnyddwyr.

Ers mis Ebrill 2026, rydyn ni wedi bod yn cynnal arolygon byr o fewn yr ap ar draws amrywiaeth o deithiau defnyddwyr, gan gynnwys:

  • archebu presgripsiynau rheolaidd
  • archebu apwyntiadau meddyg teulu
  • gweld canlyniadau profion
  • atgyfeiriadau rhestrau aros
  • apwyntiadau ysbyty
  • defnyddio'r ap yn Gymraeg

Mae'r arolygon hyn yn ein helpu i ddeall dau gwestiwn pwysig:

  • a yw'r gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr?
  • a yw'n hawdd ei ddefnyddio?

Mae'r sgoriau sy'n deillio o'r arolygon yn darparu meincnod y gellir ei olrhain dros amser. Wrth i nodweddion newid a datblygu, gallwn fesur a yw'r newidiadau'n gwella profiad cleifion, yn gwneud dim gwahaniaeth, neu'n cyflwyno problemau newydd.

Mae hyn yn symud y drafodaeth oddi wrth ragdybiaethau ac at welliannau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Deall yr hyn na all y rhifau ei ddweud wrthym

Mae metrigau perfformiad yn bwysig, ond dydyn nhw ddim yn esbonio pam mae rhywbeth yn digwydd.

Yn aml, daw'r mewnwelediadau mwyaf gwerthfawr o'r sylwadau y mae cleifion yn eu gadael ochr yn ochr â'u hymatebion i arolygon.

Er enghraifft, cafodd archebu presgripsiynau rheolaidd un o'r sgoriau boddhad uchaf yn yr ap. Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn awgrymu bod y gwasanaeth yn llwyddiannus. Fodd bynnag, pan edrychwyd yn agosach ar adborth cleifion, daeth darlun gwahanol i'r amlwg.

Dywedodd cleifion yn gyson fod archebu meddyginiaeth yn syml ac yn hawdd, ond roedd llawer yn ansicr am yr hyn oedd yn digwydd wedyn.

Disgrifiwyd ansicrwydd ynghylch a oedd presgripsiynau wedi'u cymeradwyo, rhwystredigaeth pan oedd ceisiadau'n cael eu gwrthod heb esboniad, a diffyg gwybodaeth am pryd y byddai meddyginiaeth yn barod i'w chasglu.

Mae'r ddealltwriaeth hon yn newid natur y broblem. Nid gwneud y broses archebu'n haws yn unig yw'r her, ond gwella'r profiad presgripsiwn cyfan o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys y cyfnod rhwng archebu a chasglu'r feddyginiaeth.

Heb ddarganfod parhaus, mae'n bosibl y byddai'r cyfle hwn i wella wedi parhau'n gudd.

Delwedd yn dangos y camau yn nhaith "Archebu presgripsiwn rheolaidd", gyda'r prif bwyntiau poen a chyfleoedd i wella wedi'u mapio oddi tano.

Deall pwy sy'n elwa fwyaf

Mae darganfod parhaus hefyd yn ein helpu i ddeall gwerth gwasanaethau digidol i wahanol grwpiau o gleifion.

Amlygodd adborth gan ddefnyddwyr presgripsiynau rheolaidd fanteision i bobl hŷn, pobl anabl a phobl niwrowahanol.

Disgrifiodd rhai sut roedd yr ap yn eu helpu i osgoi teithio diangen, lleihau'r angen i wneud galwadau ffôn, a rheoli eu gofal iechyd yn fwy annibynnol.

Mae'r canfyddiadau hyn yn cryfhau ein dealltwriaeth o effaith ehangach Ap GIG Cymru, y tu hwnt i gyfraddau cwblhau tasgau neu nifer y defnyddwyr yn unig.

Maen nhw’n helpu i ddangos sut y gall gwasanaethau digidol wella hygyrchedd a chefnogi mwy o annibyniaeth i gleifion.

Llywio blaenoriaethau'r dyfodol

Dydy darganfod parhaus ddim yn ymwneud â gwella gwasanaethau presennol yn unig. Mae hefyd yn helpu i lunio gwaith yn y dyfodol.

Mae adborth a gasglwyd drwy arolygon am atgyfeiriadau rhestrau aros ac apwyntiadau ysbyty wedi codi cwestiynau pwysig ynghylch:

  • cywirdeb a chyflawnder gwybodaeth am apwyntiadau
  • pa wybodaeth sydd ei hangen ar gleifion wrth aros am ofal
  • faint o reolaeth y mae cleifion ei heisiau dros reoli eu hapwyntiadau
  • y sianeli gorau ar gyfer cyfathrebu diweddariadau

Os byddwn yn gweithio ar atgyfeiriadau rhestrau aros ac apwyntiadau ysbyty yn y dyfodol, mae'r cwestiynau hyn eisoes wedi ein helpu i nodi ble y gallai fod angen rhagor o ymchwil, dylunio gwasanaethau a buddsoddi.

Yn y ffordd hon, mae darganfod parhaus yn darparu sail dystiolaeth gadarn a man cychwyn cryf ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol.

Creu diwylliant o ddysgu

Efallai mai gwerth mwyaf darganfod parhaus yw ei fod yn creu diwylliant o ddysgu parhaus.

Yn hytrach na thrin ymchwil fel cam sy'n dod i ben pan fydd gwasanaeth yn cael ei lansio, mae'n dod yn rhan annatod o reoli a gwella'r gwasanaeth drwy gydol ei oes.

Ar gyfer Ap GIG Cymru, mae hyn yn golygu y gallwn ni:

  • fonitro profiad defnyddwyr dros amser
  • nodi problemau sy'n dod i'r amlwg yn gynharach
  • deall ymddygiad ac anghenion cleifion
  • mesur effaith gwelliannau
  • dangos gwerth a manteision
  • gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am flaenoriaethau'r dyfodol

Dydy darganfod parhaus ddim yn darparu'r holl atebion. Fodd bynnag, mae'n rhoi ffordd ddibynadwy inni barhau i ofyn y cwestiynau cywir a chasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio ein penderfyniadau.

Wrth i Ap GIG Cymru barhau i ddatblygu, bydd y dull hwn yn ein helpu i sicrhau bod gwelliannau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan anghenion cleifion, eu seilio ar brofiadau bywyd go iawn, ac yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau ystyrlon i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Dilynwch ni: