Neidio i'r prif gynnwy

Pam ein bod yn ehangu'r cynllun peilot 'Mynediad awdurdodedig' cyn ei gyflwyno'n ehangach

Gan dîm Ap GIG Cymru

Mae rhoi mynediad i aelodau teulu dibynadwy neu ofalwyr i gyfrif Ap GIG Cymru rhywun arall yn un o'r nodweddion y gofynnir amdani amlaf gan gleifion a'r bobl sy'n eu cefnogi.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae dwy feddygfa wedi bod yn treialu nodwedd Mynediad awdurdodedig Ap GIG Cymru. Mae'r peilot wedi para'n hirach na'r bwriad gwreiddiol, ac rydym ar hyn o bryd yn gwerthuso sut mae'r broses yn gweithio mewn sefyllfaoedd go iawn a ble mae angen gwneud gwelliannau cyn ei chyflwyno'n ehangach.

Yr hyn rydym wedi'i ddysgu yw bod Mynediad awdurdodedig yn gallu cynnig manteision gwirioneddol, ond mae angen i'r broses weithio'n dda i gleifion, gofalwyr a thimau meddygfeydd.

Beth rydym wedi'i ddysgu hyd yma

Mae siarad â'r meddygfeydd sy'n rhan o'r cynllun peilot wedi ein helpu i nodi sawl her ymarferol sy'n gallu gwneud y broses yn fwy cymhleth nag sydd angen iddi fod.

I feddygfeydd, mae'r heriau hyn yn cynnwys:

  • cefnogi cleifion nad ydynt eto wedi lawrlwytho neu gofrestru ar gyfer Ap GIG Cymru
  • dod o hyd i le preifat ar gyfer sgyrsiau a gwiriadau adnabod
  • cynnal asesiadau o alluedd neu ddiogelu pan fydd angen
  • rheoli sefyllfaoedd nad ydynt yn cyd-fynd yn glir â'r canllawiau safonol
  • argraffu, llenwi a storio ffurflenni caniatâd papur

I gleifion a gofalwyr, mae'r heriau'n cynnwys:

  • mynychu'r feddygfa gyda'i gilydd i gadarnhau eu hunaniaeth
  • angen mwy nag un apwyntiad mewn rhai amgylchiadau i gwblhau'r broses
  • gorfod trefnu lawrlwytho a chofrestru ar yr ap yn y practis
  • cael y mathau cywir o ddogfennau adnabod wrth law pan fo'u hangen

Nid yw llawer o'r materion hyn yn unigryw i Ap GIG Cymru. Maent yn adlewyrchu pa mor bwysig yw sicrhau bod penderfyniadau ynghylch adnabod, caniatâd, galluedd a diogelu yn cael eu gwneud yn gywir wrth roi mynediad i wybodaeth iechyd rhywun arall.

Pam mae angen i ni ehangu'r cynllun peilot

Cyn sicrhau bod Mynediad awdurdodedig ar gael yn ehangach, mae angen i ni wneud y broses mor syml â phosibl, gan gynnal y mesurau diogelu priodol ar yr un pryd.

Bydd cam nesaf y cynllun peilot yn canolbwyntio ar wella'r profiad i gleifion a thimau meddygfeydd.

Rydym yn ystyried ffyrdd o wneud y canlynol:

  • casglu gwybodaeth cyn apwyntiadau, gan helpu meddygfeydd i nodi pa gymorth sydd ei angen ymlaen llaw
  • lleihau nifer yr apwyntiadau dilynol y gellir eu hosgoi lle bo hynny'n bosibl
  • darparu canllawiau cliriach ar gyfer sefyllfaoedd mwy cymhleth, fel gofalwyr maeth
  • helpu cleifion a gofalwyr i baratoi cyn mynychu apwyntiad, gan gynnwys lawrlwytho'r ap, cofrestru a dod â'r dogfennau adnabod cywir gyda nhw

Drwy fynd i'r afael â'r heriau hyn nawr, gallwn ddeall yn well sut mae'r broses yn gweithio mewn ystod ehangach o amgylchiadau ac mewn gwahanol leoliadau meddygfeydd.

Pam ein bod yn adolygu pob cam o'r broses

Rydym yn cydnabod bod cleifion, gofalwyr a meddygfeydd yn awyddus i weld Mynediad awdurdodedig ar gael yn ehangach.

Ar yr un pryd, mae'r nodwedd hon yn rhoi mynediad i wybodaeth iechyd sensitif. Felly, mae angen i unrhyw broses sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hwylustod a'r gwiriadau angenrheidiol i ddiogelu cleifion a chefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau diogel.

Dyna pam rydym yn gweithredu dull fesul cam, gan ehangu'r cynllun peilot a defnyddio'r hyn rydym yn ei ddysgu i wella'r gwasanaeth a'r canllawiau sy'n ei gefnogi.

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Dilynwch ni: