Astudiaeth Achos: Taith Ddigidol Credu - Cadw Gofalwyr wrth wraidd atebion

Roedd Credu yn darparu gwasanaethau cymorth i ofalwyr ym Mhowys a Cheredigion yn ogystal â gwasanaethau i ofalwyr ifanc yn Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych. Yn y blog hwn, mae eu Prif Swyddog Gweithredol, Becky Evans, yn disgrifio effaith trawsnewid digidol ar y ffordd maen nhw'n darparu gwasanaethau fel sefydliad sydd wedi tyfu o brosiect gofalwyr ifanc lleol bach i wasanaeth sy'n cefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion ar draws pum sir yng Nghymru, gan barhau i ganolbwyntio gofalwyr sy'n defnyddio digidol i wella ac nid disodli cymorth wyneb yn wyneb.

Dechrau gyda systemau

Dechreuodd taith ddigidol Credu drwy gryfhau sylfeini sefydliadol yn hytrach na mabwysiadu technoleg newydd. Cyflwynodd y tîm systemau AD gwell, gwellodd rheoli dogfennau, symleiddiodd adrodd ariannol a chreodd fwy o dryloywder ar draws y sefydliad. Nod syml oedd yn sbarduno’r gwaith hwn: sicrhau bod staff yn treulio mwy o amser yn cefnogi gofalwyr a llai o amser ar waith gweinyddol. 

Dywedodd Becky, "ein nod yw i staff dreulio 80% o'u hamser yn cefnogi gofalwyr a dim ond 20% ar waith gweinyddol." 

Gwrando ar staff a gofalwyr

Mae trawsnewid digidol yn Credu yn cael ei lunio gan staff a gofalwyr. Mae staff wedi bod yn rhan o sgyrsiau am ddeallusrwydd artiffisial, diogelwch, GDPR a hyder digidol, a holwyd gofalwyr am eu hanghenion gwybodaeth a chymorth. Dangosodd yr adborth alw cryf am wybodaeth a chyngor dibynadwy y tu allan i oriau swyddfa, a ddarperir trwy ffynhonnell y mae gofalwyr yn ei hadnabod ac yn ymddiried ynddi. 

Yn hytrach na disodli cymorth dynol, mynegodd gofalwyr ddiddordeb mewn offer digidol sy'n cyd fynd â’r gwasanaethau presennol ac yn eu helpu i gael mynediad at wybodaeth pryd a ble mae ei hangen arnynt.

Digidol fel rhan o gynnig integredig

Mae Credu yn archwilio sut y gallai offer sy'n cael eu pweru gan ddeallusrwydd artiffisial ymestyn ei gyrhaeddiad, yn enwedig i ofalwyr sydd wedi'u hynysu, yn methu â chael mynediad at wasanaethau yn ystod oriau gwaith, neu'n byw mewn cymunedau gwledig anghysbell. Mae manteision posibl yn cynnwys:

  • Mynediad 24/7 at wybodaeth a chyngor dibynadwy
  • Llai o faich gweinyddol ar gyfer staff rheng flaen
  • Darlunio effaith a chanlyniadau yn fwy cywir
  • Mwy o amser ar gyfer sgyrsiau ystyrlon gyda gofalwyr
  • Mynediad gwell i ofalwyr cudd a rhai sydd heb ddigon o gymorth 

Yn bwysig, mae Credu yn gweld cymorth digidol ac wyneb yn wyneb fel pethau ategol. Mae'r sefydliad eisiau i ofalwyr brofi'r un gwerthoedd, iaith a dull sy'n canolbwyntio ar y person waeth sut maen nhw'n ymgysylltu. 

Dull sy’n seiliedig ar le

Mae gwasanaethu ardal fawr a gwledig yn bennaf yn golygu bod gwybodaeth leol yn hanfodol. Mae Credu yn credu bod yn rhaid i offer digidol adlewyrchu gwasanaethau lleol, llwybrau lleol a realiti byw gwledig yng Nghymru. Nid yw gwybodaeth gyffredinol yn ddigon. Felly bydd unrhyw gynnig digidol yn y dyfodol yn cael ei adeiladu o amgylch yr anghenion a'r gwasanaethau penodol sydd ar gael ym mhob cymuned. 

Ystyried cynaliadwyedd

Nodwedd nodedig o ddull Credu yw ei ffocws ar gynaliadwyedd. Ochr yn ochr â thrafodaethau am fanteision deallusrwydd artiffisial ac arloesedd digidol, mae'r sefydliad yn ystyried effeithiau amgylcheddol yn weithredol, gan gynnwys defnydd ynni a goblygiadau ehangach seilwaith digidol. Mae staff, ymddiriedolwyr a gofalwyr i gyd wedi cyfrannu at y sgyrsiau hyn. 

Ar yr un pryd, mae Credu yn cydnabod y gall gwasanaethau digidol leihau teithio ar draws ardaloedd gwledig mawr a gwella mynediad at gymorth i ofalwyr a allai fel arall gael trafferth mynychu gwasanaethau wyneb yn wyneb. I Credu, yr her yw dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng arloesedd technolegol, cyfrifoldeb amgylcheddol a chanlyniadau gwell i ofalwyr. 

Dysgu allweddol

Mae profiad Credu yn dangos nad yw trawsnewid digidol llwyddiannus yn ymwneud â thechnoleg yn unig. Drwy gryfhau systemau, gwrando ar staff a gofalwyr, ystyried cynaliadwyedd a chanolbwyntio ar anghenion lleol, mae'r sefydliad yn adeiladu model integredig lle mae digidol yn gwella, yn hytrach na disodli, cymorth dynol. Mae'r egwyddor arweiniol drwyddi draw wedi bod yn syml: defnyddiwch ddigidol lle mae'n ychwanegu gwerth, ond gan gadw gofalwyr wrth wraidd popeth bob tro..

Darllenwch fwy am waith Credu ar eu gwefan. Os ydych chi'n darparu gofal neu gymorth i aelod o'r teulu neu ffrind, gallwch chi gael mynediad at wasanaethau gwybodaeth, cymorth a chyngor ledled Cymru.