Nia Campbell, Uwch Ddylunydd Cynnwys yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae canlyniadau profion ar gael i lawer o gleifion sy'n defnyddio Ap GIG Cymru. Ein huchelgais yw sicrhau bod pob claf yn gallu defnyddio'r nodwedd hon, ac ehangu'r ystod o ganlyniadau sydd ar gael.
Dywedodd ein harolwg wrthym fod cleifion yn gwerthfawrogi'r mynediad hwn a'r cyfleustra o beidio â gorfod cysylltu â'u meddygfa i gael eu canlyniadau.
Ond dim ond rhan o'r stori yw cael mynediad.
Beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn gweld canlyniad nad yw'n ei ddeall? A yw’n gwybod beth mae'n ei olygu i'w iechyd? Ac yn bwysig, a yw'n gwybod a oes angen cymryd unrhyw gamau eraill?
Dyma rai o'r cwestiynau rydym wedi bod yn eu harchwilio wrth edrych ar sut y gallem wella'r ffordd y mae canlyniadau profion yn cael eu cyflwyno yn yr ap.
Rydym yn gweithio mewn camau bach, gan ddysgu a gwella wrth fynd ymlaen. Ein ffocws ar hyn o bryd yw'r sgrin lanio ar gyfer canlyniadau profion a'r ffordd y caiff canlyniadau unigol eu cyflwyno.
Er bod gan ein tîm dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr amrywiaeth o sgiliau, mae angen safbwyntiau llawer ehangach arnom i ddeall y broblem yn llawn.
Dechreuodd ein hymchwilydd defnyddwyr drwy adolygu'r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli am sut mae cleifion yn cael mynediad at eu canlyniadau profion ac yn eu deall.
Buom hefyd yn siarad â thîm canlyniadau profion GIG Lloegr i ddeall beth yr oeddent wedi'i ddysgu o'u gwaith eu hunain.
Daeth tri angen i'r amlwg.
Mae cleifion eisiau help i ddeall beth mae canlyniad yn ei olygu i'w hiechyd. Maent eisiau gwybod beth sy'n digwydd nesaf a phwy sy'n gyfrifol am y camau nesaf. Mae eu dealltwriaeth o ganlyniad hefyd yn aml yn gysylltiedig â gwybod pam y trefnwyd y prawf yn y lle cyntaf.
Rhoddodd hyn fan cychwyn defnyddiol inni: nid yw dangos gwybodaeth iechyd i rywun o reidrwydd yn golygu y bydd yn gallu ei deall.
Defnyddiom y dystiolaeth hon i ddatblygu syniadau cynnar a'u profi gyda saith claf ledled Cymru.
Mae eu hadborth wedi ein helpu i ddeall ble y gallwn wneud pethau'n gliriach, a ble mae angen mwy o waith o hyd.
Nid yw canlyniad prawf yn dechrau pan fydd yn ymddangos yn yr ap.
Mapiodd ein dylunydd gwasanaethau beth sy'n digwydd o'r adeg y mae rhywun yn ymweld â'i feddyg teulu ac yn cael prawf, hyd at dderbyn y canlyniad.
Buom yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu i sicrhau bod ein map yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth gyffredin inni o'r bobl, y prosesau a'r dechnoleg sy'n rhan o'r gwaith, a helpodd i nodi risgiau, bylchau a chyfleoedd ar hyd y ffordd.
Mae rhai o'r manylion hyn yn bwysig iawn.
Er enghraifft, nid yw canlyniadau profion a gymerwyd ar yr un pryd o reidrwydd yn dod yn ôl o'r labordy gyda'i gilydd. Gall claf fod yn poeni bod ei ganlyniadau'n cymryd amser, ond ar yr ochr arall gallai'r meddyg teulu fod yn aros am ganlyniadau eraill cyn gallu deall y darlun llawn.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda'n datblygwyr i ddeall yn union pa wybodaeth wedi'i chodio sy'n gallu cael ei throsglwyddo o systemau meddygon teulu i'r ap.
Mae'r gwaith hwn wedi datgelu rhai anghysondebau rydym yn eu harchwilio gydag EMIS a'n cydweithwyr diogelwch cleifion oherwydd eu heffaith bosibl ar ddiogelwch cleifion.
Mae edrych y tu hwnt i'r sgrîn wedi ein helpu i weld pethau y gallem fod wedi'u methu fel arall.
Wrth i ni ddeall mwy am y gwasanaeth, daeth anghenion gwybodaeth gwahanol i'r amlwg.
Mae angen help ar gleifion i ddeall pethau fel ystodau cyfeirio, yn ogystal â lle dibynadwy i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eu prawf.
Mae meddygon teulu eisiau i bobl wybod y gall canlyniadau gyrraedd ar adegau gwahanol, ac nad yw ystodau cyfeirio bob amser yn rhoi'r darlun llawn ar gyfer pob claf.
Mae angen i'n desg wasanaeth allu helpu pobl sydd â chwestiynau am yr ap, gan egluro ar yr un pryd bod cwestiynau am ystyr canlyniad yn fater i'w meddygfa.
Byddai ceisio esbonio hyn i gyd ar bob sgrîn yn creu problem arall.
Mae ein dylunydd cynnwys wedi bod yn gweithio ar ddeall beth sydd angen i rywun ei wybod pan fydd yn gweld canlyniad, beth y gall ddewis darllen mwy amdano, a beth sydd orau ei ddarparu drwy ganllawiau ategol.
Pryd mae gwybodaeth ychwanegol yn ddefnyddiol, a phryd gallai fod yn ormod?
Weithiau mae gwella dealltwriaeth yn golygu ychwanegu gwybodaeth. Weithiau mae'n golygu gwybod beth i'w adael allan.
Y nod yw darparu'r wybodaeth gywir, ar yr adeg gywir, mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr.
Dyluniadau canlyniadau profion gyda nodiadau, yn dangos y dyluniadau presennol a'r gwaith sydd ar y gweill.
Mae ein dylunydd rhyngweithio wedi bod yn ystyried pa elfennau gweledol all helpu cleifion i ddeall eu canlyniadau'n well.
Ar hyn o bryd, mae canlyniadau profion yn cael eu cyflwyno mewn un rhestr hir. I rywun sydd â channoedd neu hyd yn oed filoedd o ganlyniadau hanesyddol, gall fod yn anodd dod o hyd i'r hyn y mae'n chwilio amdano.
Felly rydym wedi archwilio tudalen lanio sy'n helpu pobl i lywio eu canlyniadau yn ôl blwyddyn, gweld faint o ganlyniadau sydd ganddynt, a nodi canlyniadau nad ydynt wedi'u hagor eto.
Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cyflwyno'r canlyniadau eu hunain.
A yw dangos sylwadau'r gweithiwr gofal iechyd yn gynharach yn helpu rhywun i ddeall beth mae ei ganlyniad yn ei olygu? Sut gallwn wneud set o ganlyniadau rhifiadol yn haws i'w sganio?
Mae ein datblygwyr wedi ein helpu i ddeall beth sy'n dechnegol bosibl. Drwy brofi prototeipiau cynnar gyda chleifion, rydym wedyn wedi cael cyfleoedd i weithio gyda'n cydweithwyr meddygon teulu i fireinio'r dyluniadau.
Ac mae pob gwers newydd yn helpu'r dyluniad i ddatblygu.
Un o'n myfyrdodau mwyaf o'r gwaith hwn yw pa mor gyflym y gall nodwedd sy'n ymddangos yn syml ein harwain ar draws y gwasanaeth cyfan.
Arweiniodd ymchwil i ddealltwriaeth cleifion ni at brosesau clinigol. Arweiniodd deall y prosesau hynny ni at y data sylfaenol. Cododd edrych ar y data gwestiynau am ddiogelwch. A rhoddodd profi dyluniadau gyda chleifion gwestiynau newydd inni eu trafod gyda meddygon teulu a datblygwyr.
Mae gweithio drwy'r dyluniadau hefyd wedi ein helpu i nodi beth sydd ei angen arnom gan gydweithwyr mewn labordai, diogelwch cleifion, cymorth gwasanaeth, newid busnes a chyfathrebu.
Ni allai unrhyw ddisgyblaeth na phroffesiwn unigol ateb pob un o'r cwestiynau hynny.
Ac nid yw'r gwaith wedi symud yn daclus o ymchwil, i ddylunio, i ddatblygu. Rydym wedi bod yn symud yn ôl ac ymlaen rhyngddynt: profi rhagdybiaethau, canfod cwestiynau newydd, a dod â'r bobl gywir i mewn i helpu i'w hateb.
Dyna, yn ein barn ni, yw gwerth gweithio fel tîm amlddisgyblaethol.
Nid yw'n ymwneud â chynnwys gwahanol broffesiynau yn unig. Mae'n ymwneud â dod â'r bobl gywir at ei gilydd ar yr adeg gywir, a rhoi'r lle iddynt ddysgu oddi wrth ei gilydd wrth i'r gwaith ddatblygu.
Oherwydd mae sicrhau bod canlyniadau profion ar gael i bobl yn un peth.
Mae helpu pobl i'w deall yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ddylunio gyda'n gilydd.