Neidio i'r prif gynnwy

Sbotolau Myfyrwyr – Sut mae sgiliau gradd ddigidol Lloyd yn ei helpu yn y gweithle

 

Ymunodd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2017 i sefydlu WIDI (Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru). Mae wedi cefnogi sawl prentis i fynd i mewn i waith gwybodeg yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ynghyd â darparu cyfleoedd i staff presennol gwblhau graddau mewn pynciau gwybodeg.

 

Yn dilyn ei flwyddyn gyntaf yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, roedd Lloyd Willis yn chwilio am gyfleoedd i ymgymryd ag addysg bellach ochr yn ochr â'i swydd, “Roedd y brentisiaeth gradd ddigidol trwy'r rhaglen WIDI yn sefyll allan uwchben popeth arall, gan ei bod yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ac rwy'n cael mynychu fy narlithoedd yn y brifysgol am ddiwrnod bob wythnos”.

 

Datblygodd Lloyd yn gyflym yn ei waith ac ymgymryd â rôl ym maes cymorth TG, gyda'i astudiaethau prifysgol yn ei helpu yn y rôl newydd,  “mae'r cwrs WIDI wedi rhoi gwybodaeth ehangach i mi am ystod ehangach o bynciau, er enghraifft yn y flwyddyn gyntaf, edrychon ni i mewn i godio SQL ar gyfer cronfeydd data, datblygu meddalwedd (iaith raglennu C), a dylunio gwe (html a CSS). Mae meddu ar y sgiliau hyn wedi fy ngalluogi i ddeall anghenion y defnyddwyr rydyn ni'n eu cefnogi yn well”.

Ag yntau wedi cwblhau’r flwyddyn gyntaf, mae Lloyd wedi sicrhau rôl newydd yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gyda’r tîm Monitro Seilwaith. Dywed ei fod yn ddiolchgar am flwyddyn gyntaf ei gymhwyster a’i helpodd i gael y swydd newydd ac mae'n edrych ymlaen at barhau â'i astudiaethau i ennill BSc mewn Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch). “Byddaf yn dechrau swydd newydd gyda’r tîm Monitro yn fuan iawn, a chredaf fod hyd yn oed cwblhau blwyddyn gyntaf y brifysgol wedi fy helpu i gael y swydd. Mae'n dangos fy mod i'n wybodus mewn amrywiaeth o bynciau.  A bydd gwybodaeth fel SQL yn arbennig o ddefnyddiol i mi.”