Neidio i'r prif gynnwy

Meddygon teulu yng Nghymru i elwa o fynediad at ap cyngor ac arweiniad newydd

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wedi galluogi meddygon teulu a staff practisiau meddygon teulu yng Nghymru i gael mynediad at ap sy'n cysylltu defnyddwyr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol pan fydd angen cyngor am ofal cleifion cymhleth arnynt.

Mae Consultant Connect yn wasanaeth clinigwr-i-glinigwr a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi mynediad i feddygon teulu at ystod eang o arbenigwyr ar draws ystod o feysydd therapi. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gosod eicon y gwasanaeth ar fwrdd gwaith pob meddyg teulu ac aelodau staff practisiau fel y gallant ddefnyddio’r ap yn gyflym ac yn hawdd pryd bynnag y mae angen cyngor gofal iechyd ychwanegol arnynt.

Bydd yr ap yn cysylltu’n awtomatig â chyfeiriadur gwasanaeth lleol y practis, lle mae rhif deialu a rhestr o arbenigeddau sydd ar gael ar gyfer ymgynghori yn cael eu storio. Ar hyn o bryd, mae Consultant Connect ar gael ym mhob bwrdd iechyd, ac eithrio Aneurin Bevan.

Os ydych chi'n feddyg teulu sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'ch bod chi'n cael problemau gyda'ch eicon bwrdd gwaith, yna cofrestrwch alwad gyda desg gwasanaeth Gofal Sylfaenol trwy anfon e-bost at: primarycare.servicedesk@wales.nhs.uk

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau eraill gyda'r gwasanaeth ei hun, anfonwch e-bost at hello@consultantconnect.org.uk neu ffoniwch 018765261467

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/12/20