Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Digidol i chwarae rhan fawr wrth ddarparu iechyd a gofal yn y dyfodol

Bydd gwasanaethau digidol a thechnoleg newydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw fel rhan o’i chynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer adfer ar ôl COVID-19.

Mae’r adroddiad, Gwella iechyd a gofal cymdeithasol (COVID-19: edrych tua’r dyfodol) | LLYW.CYMRU  Edrych Tua’r Dyfodol, yn tynnu sylw at sut roedd gwasanaethau digidol yn gallu cefnogi newidiadau yn gyflym i wneud gofal iechyd yn hygyrch yn ystod y pandemig, trwy newid yn gyflym i ymgynghoriadau o bell a dros fideo.

Mae COVID-19 wedi cyflymu newidiadau a oedd eisoes ar y gweill. Er enghraifft, roedd Microsoft Teams a thechnolegau eraill i gefnogi gweithio o bell eisoes wedi'u cynllunio ond fe'u cyflwynwyd o fewn wythnosau i holl weithlu GIG Cymru. Datblygwyd platfform olrhain cysylltiadau cenedlaethol a system frechu genedlaethol yn ganolog ac roeddent ar gael i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, mewn ffordd safonol. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn, a bydd yn parhau i wneud hynny o fis Ebrill ymlaen fel Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sefydliad newydd GIG Cymru ar gyfer gwasanaethau digidol cenedlaethol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, “Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ein cleifion a’n staff. Wrth inni fynd heibio i gyfnod mwyaf difrifol y pandemig, rydym yn awr mewn sefyllfa i amlinellu sut y gallwn ddechrau adfer.

Datblygwyd llawer o dechnoleg newydd yn ystod y pandemig, a bydd y rhain yn chwarae rhan allweddol o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1.26m i sefydlu canolfan i hybu’r defnydd o dechnolegau newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y buddsoddiad yn galluogi i Technology Enabled Care Cymru hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau newydd, fel ymgyngoriadau rhithwir a monitro cleifion o bell yn eu cartrefi.”