Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio System Gwybodaeth Radioleg Cymru (WRIS), sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel RadIS2.
Cyflwynwyd y system - sy'n perfformio swyddogaethau fel amserlennu cleifion ac adrodd clinigol sy'n ymwneud â delweddau meddygol, fel delweddau pelydr-x, sganiau CT ac MRI, ac uwchsain - ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro (gorllewin) ar ddiwedd 2018, gan gwblhau ei weithrediad cenedlaethol.
Mae WRIS yn gweithio mewn cydweithrediad â'r System Archifo Lluniau a Chyfathrebu (PACS) i reoli storio, adalw, dosbarthu a chyflwyno delweddau, ac mae'n caniatáu rhannu'r delweddau hyn yn genedlaethol.
Mae ein tîm Cymorth RadIS yn gweithio'n agos ag adrannau TG lleol yn ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe, ac mae adborth cynnar wedi bod yn gadarnhaol.
"Am y tro cyntaf, mae'r holl ysbytai yng Nghymru yn rhedeg eu hadrannau radioleg gan ddefnyddio'r WRIS cenedlaethol," meddai Uwch Arbenigwr Cynhyrchion RadIS, Amanda Carter. "Mae hyn yn golygu y gall yr holl weithwyr ledled Cymru weithio tuag at nod gyffredin a hybu gwasanaethau radioleg ymlaen gyda'i gilydd. Mae hwn yn gyflawniad gwych. Mae wedi bod yn her sylweddol ar nifer o lefelau, ond mae'r daith wedi bod yn haws yn sgil ymrwymiad, proffesiynoldeb a phenderfyniad pawb a oedd yn gysylltiedig."