Neidio i'r prif gynnwy

Bydd system ddigidol newydd yn cefnogi cyflwyno brechlyn COVID-19 yng Nghymru

Mae system ar gyfer creu a threfnu apwyntiadau brechu COVID-19 wedi cael ei datblygu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS).

Bydd System Imiwneiddio Cymru (WIS), a adeiladwyd yn fewnol gan ddatblygwyr GIG Cymru, yn cefnogi cyflwyno'r brechlyn Pfizer/BioNTech a brechlynnau COVID-19 cymeradwy eraill ar draws y byrddau iechyd.

Mae'r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaeth a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechlyn, i ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drefnu apwyntiadau ar gyfer cleifion. Bydd yn creu slotiau apwyntiad, yn anfon llythyrau apwyntiad ac yn cofnodi manylion am bob brechlyn ar gyfer pob brechlyn COVID-19 a weinyddir yng Nghymru.

Gan fod y brechlyn yn cynnwys rhaglen dau ddos gyda phedair wythnos rhwng dosau i gyflawni'r lefel uchaf o imiwneiddiad, mae'r system hefyd yn trefnu apwyntiad dilynol yn awtomatig i bob claf dderbyn ei ail ddos.

Dywedodd Alison Maguire, Arweinydd Rhaglen System Imiwneiddio Cymru yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Mae’r system genedlaethol hon wedi’i chreu’n fewnol yn NWIS mewn partneriaeth â’n cydweithwyr ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd yn golygu y gallwn drefnu a chofnodi pob brechiad COVID-19 yn ddiogel, ble bynnag yng Nghymru y cânt eu rhoi.

“Trwy brosesu’r wybodaeth hon yn ddigidol ac mewn un system, gellir rhoi brechiadau mor effeithlon â phosibl ar gyfer cleifion â blaenoriaeth a grwpiau galwedigaeth.”

Aeth System Imiwneiddio Cymru yn fyw ar 2 Rhagfyr a bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru fel rhan o strategaeth Llywodraeth y DU ar gyfer holl genhedloedd y DU.

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/20