Neidio i'r prif gynnwy

Andrew Griffiths – Prif Weithredwr Newydd FedIP

Mae Andrew Griffiths, Cyn-gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr newydd FedIP (The Federation for Informatics Professionals), sef y corff sy’n arwain proffesiynoldeb ar gyfer y gymuned TG ym maes gofal iechyd.

Meddai Wendy Dearing, aelod o Fwrdd FedIP, “Mae gan FEDIP rôl hanfodol i’w chwarae wrth gryfhau ein proffesiwn yn ogystal â’n heffaith a’n dylanwad ar ddarpariaeth gofal iechyd, felly rydyn ni wrth ein boddau bod Andrew yn ymuno â ni fel Prif Weithredwr. Mae wedi bod yn llais dros sgiliau a phroffesiynoldeb yn y sector TG ers amser hir, a bydd ei wybodaeth a’i arbenigedd yn amhrisiadwy.”

Meddai Andrew Griffiths, wrth sôn am ei benodiad, “Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn. Rwy’n teimlo’n gryf y dylai gofal iechyd fod yn weithle deniadol i weithwyr gwybodeg proffesiynol, a hynny â llwybr gyrfa a chyfleoedd datblygu proffesiynol cryf.  Byddwn yn hoffi petai gan bawb sy’n gweithio ym maes TG gofal iechyd gofrestriad proffesiynol.”

Rhoddodd Andrew orau i’w swydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a’r Prif Swyddog Gwybodaeth ym mis Rhagfyr 2019.

Mae FedIP yn gydweithrediad rhwng y cyrff proffesiynol arweiniol ym maes gwybodeg iechyd a gofal, sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r proffesiwn gwybodeg.

BCS The Chartered Institute for IT (BCS)

Socitm - The Society for Innovation, Technology and Modernisation

CILIP – The Library and Information Association

AphA The Association of Professional Healthcare Analysts

IHRIM – Institute of Health Records and Information Management.

Mae rhagor o wybodaeth am FEDIP ar gael ar fedip.org