Neidio i'r prif gynnwy

Un cofnod, gofal gwell: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwella diogelwch meddyginiaethau i gleifion

O'r chwith i’r dde: Sue Hamer (Pennaeth Rhaglenni Digidol), James Goddard (Arweinydd e-Bresgripsiynau Ysbyty, IGDC), Mo Abdelkafi (Prif Fferyllydd), Bethan Perry (Uwch Dechnegydd Fferyllfa), Ffion Thomas (Uwch Wybodegydd Clinigol, IGDC), Emma Dodge (Nyrs Glinigol Arbenigol Gwybodeg) ac Elizabeth Davies (Arbenigwr Cynnyrch).

28 Mai 2026

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddechrau darllen meddyginiaethau wrth dderbyn cleifion i'r ysbyty ac ysgrifennu meddyginiaethau wrth eu rhyddhau gyda'r Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR), gan nodi cam arwyddocaol wrth helpu i greu cofnod meddyginiaethau cyfunol i gleifion.

Mae Ysbyty Cymunedol Bronllys yn Aberhonddu wedi dechrau eu trawsnewidiad o siartiau papur wrth ochr y gwely i'r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau electronig (ePMA) gan y cyflenwr, Better, gan wneud rhagnodi'n haws ac yn fwy diogel i gleifion ac i staff gofal iechyd sy'n rheoli eu meddyginiaeth. Mae hyn yn nodi dechrau eu taith ddigidol ehangach wrth iddynt hefyd ddechrau gweithredu darllen ac ysgrifennu meddyginiaethau llawn gyda'r SMR.

Mae'r SMR yn elfen allweddol o'r Rhaglen Moddion Digidol genedlaethol a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Mae'n gofnod cyfunol a rennir o feddyginiaethau, alergeddau ac anoddefiadau ar gyfer pob claf yng Nghymru. Mae hyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt heb i glaf orfod darparu'r un manylion bob tro y maent yn gweld aelod newydd o staff. Mae'n helpu i gefnogi penderfyniadau clinigol a lleihau risg pan fydd gofal yn cael ei drosglwyddo o un pwynt i'r llall.

Nododd Holly Jarman, Technegydd Fferyllfa yn BIAP: “Ers defnyddio ePMA ar fy ward mae yna fanteision clir eisoes i staff a chleifion.  Mae'r system wedi gwella'r ffordd rydym yn gweithio ar y ward drwy ganiatáu i nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael mynediad at siart cyffuriau claf ar yr un pryd, gan leihau oedi, a gwella cyfathrebu rhwng staff fferyllfa, nyrsio a meddygol.

“Oherwydd natur wledig Powys, mae ePMA yn werthfawr wrth gefnogi gweithio o bell i adolygu siartiau meddyginiaeth a hwyluso rhyddhau.

“Mae rhestr flaenoriaethau’r fferyllfa hefyd wedi gwella llif gwaith drwy helpu i nodi cleifion sydd newydd eu derbyn, newidiadau i feddyginiaeth, a’r rhai sydd angen adolygiad clinigol brys. Mae hyn yn cefnogi rhagnodi mwy diogel, rheoli meddyginiaethau'n fwy effeithlon, a gofal cleifion amserol”.

Dywedodd Sue Hamer, Pennaeth Rhaglenni Digidol yn BIAP: “Rwyf wedi cyffroi ein bod ni nawr yn dechrau gweithredu ePMA ar ein wardiau cleifion mewnol. Mae cyrraedd y pwynt hwn yn garreg filltir wirioneddol, ac rwy'n hynod falch o'r gwaith caled, yr ymrwymiad a'r cydweithrediad y mae staff wedi'u dangos ar hyd y ffordd. Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o'r daith hon, ac rwyf wedi cyffroi am y gwahaniaeth y bydd ePMA yn ei wneud i staff a chleifion wrth i ni barhau i wella diogelwch ac ansawdd gofal ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys”.

Dywedodd Dr Lesley Hewer, Cadeirydd Rhaglen Genedlaethol ePMA IGDC: “Roedd yn wych gweld â’m llygaid fy hun yn gweithredu’r system ePMA yn ward Llewelyn yn Ysbyty Cymunedol Bronllys. Gwnaeth sut y gwnaeth y staff ei defnyddio mor hawdd greu argraff arna i; gyda'r swm helaeth o amser, ymdrech a pharatoi a wnaeth y tîm yn amlwg yn werth chweil.”

“Mae Powys yn ardal ddaearyddol mor eang gyda rhai aelodau staff yn mynychu’r amgylchedd clinigol 2-3 gwaith yr wythnos, felly drwy brofi galluoedd mynediad o bell gyda’r system newydd, mae’n amlwg gweld y manteision arbed amser y bydd y system newydd hon yn eu darparu.”

“Mae yna gyffro mawr wrth weld y swyddogaeth darllen ac ysgrifennu SMR yn dechrau cael ei defnyddio o fewn BIAP. Gallwch weld y potensial ar gyfer hyn yng Nghymru fel rhywbeth sy’n newid y gêm; y gem yng ngweithrediad e-PMA gofal eilaidd.”

Dilynwch ni: