Neidio i'r prif gynnwy

System Gweinyddu Cleifion Cymru yn cysylltu Gogledd Cymru

25 Gorffenaf 2023

Mae rhaglen waith enfawr wedi llwyddo i gysylltu fersiynau ar wahân o System Gweinyddu Cleifion Cymru (WelshPAS) yng Ngogledd Cymru. Mae’n dod â holl ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (PBC) ynghyd i greu un fersiwn unigol o'r WelshPAS.

WelshPAS yw system technoleg gwybodaeth fwyaf GIG Cymru ac mae’n rheoli dros 2.6 biliwn o drafodion y flwyddyn. Mae ei swyddogaethau niferus yn cynnwys cofnodi a rhannu gwybodaeth cleifion megis apwyntiadau a thriniaethau.

Cyn i'r system gael ei huno, pe bai claf yn cael ei weld yn nwyrain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond bod angen triniaeth arno yng nghanol neu yng ngorllewin y bwrdd iechyd, byddai'n rhaid trosglwyddo ei wybodaeth. Bellach, mae'r wybodaeth am gleifion a'r rhyngweithiadau â chleifion ar gael yn hawdd ar draws y bwrdd iechyd cyfan – gan arbed amser a gwella diogelwch a phrofiad y claf.

Ar gyfer cam olaf y gwaith, bu DHCW a PBC yn cydweithio i osod a thrawsnewid y systemau. Dywedodd Dylan Roberts, Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth PBC:

“Mae hwn wedi bod yn ymdrech enfawr, yn cynnwys timau amlddisgyblaethol o wahanol broffesiynau ar draws PBC a DHCW yn gweithio fel un. Mae'r prosiect cyfan wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio, cynllunio gwych ar y cyd a ffocws ar bwrpas a rennir. Roedd y penwythnos mynd yn fyw yn cynnwys dros 110 o bobl ac mae'n un o'r rhai llyfnaf rwyf wedi'i brofi yn ystod fy 23 mlynedd fel Prif Swyddog Gwybodaeth. Cyflawniad gwych. Diolch i holl staff PBC a DHCW a gymerodd ran. Mae eisoes yn dechrau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion a staff.”

Dechreuodd gwaith ar y prosiect i greu System Gweinyddu Cleifion (PAS) di-dor ar draws Gogledd Cymru yn 2015 – bu llawer o’r gwaith diweddaraf yn digwydd yn ystod cyfyngiadau COVID, blaenoriaethau newidiol a phwysau digynsail ar y GIG.

Eglurodd Carl Davies, Rheolwr Cymwysiadau Cenedlaethol ar gyfer WelshPAS, nad oes modd cyflawni llawer mewn ysbyty heb PAS sy’n gweithredu’n llawn: 

“Mae’n rheoli’r atgyfeiriadau, derbyniadau, a phresenoldeb cleifion allanol yn ogystal â llu o swyddogaethau eraill megis rhyngwynebu â systemau clinigol trydydd parti.Heb ymdrechion pawb - o’r timau cymorth, technegwyr, datblygwyr, arbenigwyr seilwaith, rheolwyr prosiect, a dadansoddwyr busnes i feddygon, nyrsys, clercod wardiau, a hyfforddwyr, ni fyddai’r prosiect hwn wedi digwydd, heb sôn am fod yn llwyddiant mawr.”