Medi 19eg 2024
Mae ail gam prosiect darganfod iechyd meddwl wedi nodi saith blaenoriaeth allweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Dan arweiniad Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar sut i ddefnyddio digidol, data a thechnoleg i ddiwallu anghenion unigolion yn well a chyflawni canlyniadau gwell.
Yn 2023, bu IGDC yn gweithio gyda sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg i ddeall yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Canfuwyd problemau gyda chael mynediad at ddata a’i rannu, diffyg gwybodaeth gyfredol am alw a chapasiti, a’r angen am gofnod iechyd electronig Cymru gyfan i wella cynllunio a gofal.
Ar ddechrau 2024, rhannodd IGDC y canfyddiadau hyn â’r chwe rhanbarth a sefydliad cenedlaethol arall sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Defnyddiwyd y canfyddiadau i greu darlun cenedlaethol o’r heriau a’r cyfleoedd i wella gwasanaethau iechyd meddwl.
Dangosodd ail gam y prosiect fod rhanbarthau gwahanol yn defnyddio modelau gwahanol i ddarparu gofal. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau iechyd anghyfartal ac yn cyfyngu ar rannu data, oherwydd y diffyg adnoddau digidol sy’n cael eu defnyddio mewn gwasanaethau iechyd meddwl i gasglu data cyson. Pwysleisiodd y prosiect hefyd fod angen rhoi’r un flaenoriaeth i iechyd meddwl ag sy’n cael ei roi i iechyd corfforol.
Dywedodd Sam Hall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, IGDC: “Mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl o safon yn weithgaredd cymhleth ac aml-sgil, sy’n cwmpasu ystod ehangach o wasanaethau y tu mewn a’r tu allan i GIG Cymru. Fe wnaeth y gwaith darganfod hwn ein helpu i ddeall beth sy’n ‘rhaid ei wneud’ i wella’r gwasanaeth i’r rhai sydd ei angen a’r rhai sy’n ei ddarparu. Rwy’n falch iawn bod y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi’i sefydlu a bydd yn gyfrwng i helpu i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r cam darganfod pwerus hwn.”
Bydd y saith blaenoriaeth hyn yn rhan o ffrwd waith digidol a data, a oruchwylir gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl. Bydd ymgysylltu pellach yn digwydd gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darlun manylach a rhoi argymhellion y cam darganfod ar waith. Bydd dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau hefyd yn gallu rhannu eu profiad o gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.