Neidio i'r prif gynnwy

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio cwrs gofal iechyd digidol newydd

16 Mehefin 2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cwrs MSc Sgiliau Digidol i Weithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol newydd a fydd yn dechrau ym mis Medi.

Y cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae'r cwrs ôl-raddedig hwn yn gwella sgiliau staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu a gweithio o fewn tirwedd ddigidol darparu iechyd a gofal. Datblygwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad â Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) a gweithwyr proffesiynol GIG Cymru. Mae WIDI yn bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r bartneriaeth hon yn sbardun allweddol ar gyfer gwella'r gweithlu digidol ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.

Mae ceisiadau'n cael eu derbyn nawr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.