Neidio i'r prif gynnwy

Penodi cadeirydd newydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru

22 Medi 2021

Mae’n bleser gennym gyhoeddi i Simon Jones gael ei benodi gan Lywodraeth Cymru yn Gadeirydd ein bwrdd.

Bydd Simon Jones yn ymuno â ni ym mis Hydref a bydd yn olynu Bob Hudson OBE a fydd yn cwblhau ei benodiad yn gadeirydd dros dro ar 30 Medi.

Mae Simon Jones yn dod â phrofiad helaeth wedi iddo weithio yn y sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat. Bu’n gwasanaethu mewn nifer o swyddi arweinyddiaeth yn GIG Cymru, yn gyntaf yn aelod o Awdurdod Iechyd De Morgannwg, yna fel Is-gadeirydd a Chadeirydd Awdurdod Iechyd Bro Taf, a hyd fis Rhagfyr 2008 roedd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y GIG Caerdydd a'r Fro.  Yn y cyfnod hwn, roedd yn Gadeirydd arweiniol yr Ymddiriedolaeth arweiniol, yn ogystal ag yn Gadeirydd Cydffederasiwn GIG Cymru.

Y fwyaf diweddar roedd yn Gyfarwyddwr DU, Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie UK hyd fis Mehefin 2021.

Wrth groesawu’r Cadeirydd newydd, dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod Simon Jones wedi’i benodi’n Gadeirydd y bwrdd. Mae’n ymuno â’n sefydliad ar adeg gyffrous wrth i ni ddatblygu a darparu datrysiadau digidol newydd ac arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i staff, cleifion, y cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd ei brofiad a’i fewnwelediadau yn wirioneddol werthfawr.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Bob Hudson, sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ein llywio drwy’r broses o drosglwyddo staff a swyddogaethau o’r Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a sefydlu’r fframwaith llywodraethu. Rwy’n hynod ddiolchgar iddo am gamu i’r adwy yn gadeirydd dros dro a gosod y sylfaen.”

Dywedodd Simon Jones: “Mae’n anrhydedd ymuno â’r sefydliad sydd wedi chwarae rhan fawr yn y broses o drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal. Mae brwdfrydedd ar gyfer dulliau digidol sydd wedi cryfhau yn ystod y pandemig ac sy’n cynnig sbardun i ddatblygiadau a chyfleoedd newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr newydd yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r sector iechyd a gofal er mwyn cyflwyno gwasanaethau digidol ar gyfer y rheng flaen a chleifion.

Hoffwn ychwanegu fy niolch i Bob.  Rydym wedi adnabod ein gilydd ers blynyddoedd a gwn y bydd wedi gwneud gwaith ardderchog o arwain y Bwrdd yn ystod misoedd cynnar Iechyd a Gofal Digidol Cymru.”

Dywedodd Bob Hudson: “Mae’n bleser gennyf drosglwyddo’r awenau i Simon. Mae’n meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd i gynnal y momentwm ac adeiladu ar y sylfaeni sydd bellach wedi’u gosod. Bu’n fraint i mi fod yno ar y cychwyn cyntaf a rhannu cyflawniadau hynod y sefydliad yn ystod y pandemig. Hoffwn ddiolch i bawb yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.”

Sefydlwyd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar 1 Ebrill 2021 fel Awdurdod Iechyd Arbennig a disodlodd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.