Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at gofnodion digidol cenedlaethol yn trawsnewid ymagwedd parafeddygon Ambiwlans Cymru at ofal cleifion

8 Mehefin 2021

Mae mynediad cyflym at gofnodion iechyd digidol cleifion wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu gofal sy’n achub bywydau, yn ôl parafeddygon yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. 

Dywedodd Mark Craven, Uwch Barafeddyg Trawma, fod yr wybodaeth a ddarparwyd gan Borth Clinigol Cymru wedi bod yn amhrisiadwy ers iddo ef a’i dîm ddechrau ei ddefnyddio. 

“Mae gan dîm ein Desg Glinigol fynediad at Borth Clinigol Cymru, ac maent yn cefnogi criw’r ffordd pan fyddwn ni ar alwad. Rydym mewn cyswllt parhaus â’r ddesg glinigol, sy’n chwilio am wybodaeth y claf rydyn ni’n ei drin/thrin, a gallant roi cefndir llawn ei hanes meddygol a dweud pa feddyginiaeth mae’n ei chymryd.” 

Esboniodd Mark y gall gwybod yr wybodaeth feddygol bwysig hon pan fydd claf wedi drysu neu pan na all gofio ei gofnodion/chofnodion iechyd gael effaith amlwg ar ei driniaeth/thriniaeth a gall hyd yn oed achub bywyd, “Mae wir yn dweud wrthyn ni am y pethau pwysig. Er enghraifft, mae gwybod y gall claf fod ar wrthgeulydd yn golygu y gallai cwymp bach fod yn rhywbeth llawer mwy difrifol ac y gallai fod angen triniaeth bellach.”  

Mae modd i dîm Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru weld profion canlyniadau hefyd, a gallai mynediad at ganlyniadau profion gwaed diweddar claf olygu na fyddai angen i’r criw ambiwlans fynd â’r claf i’r ysbyty am brofion eildro. Mae hyn yn golygu y gallant wedyn benderfynu ar ffurf arall o driniaeth, yn ddelfrydol lle nad oes angen i’r claf fynd i ysbyty heb fod angen, a lle gall gael triniaeth gartref neu yn rhywle arall.  Nid yn unig y mae hyn yn arbed y claf rhag gorfod cael prawf gwaed arall, ond mae hefyd yn arbed amser gwerthfawr parafeddygon. 

Drwy roi mynediad i dimau ambiwlans at wybodaeth hanfodol am eu cleifion, gall Porth Clinigol Cymru alluogi cynllunio gwell ar gyfer triniaethau, gofal mwy effeithlon a gall helpu staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i deimlo’n “fwy diogel wrth wneud penderfyniadau”.