Neidio i'r prif gynnwy

Mis Balchder 2023: Nathan Stone allan ac yn falch

2 Mehefin 2023

Y Mis Balchder hwn rydym yn rhannu straeon gan rai o'n staff am eu profiadau fel rhan o'r gymuned LHDTC+. Dewch i gwrdd â Nathan Stone, Rheolwr Prosiectau Technegol yn DHCW a dysgu rhagor am ei daith i fod allan ac yn falch.

Helo, fy enw i yw Nathan, rwy'n hoyw, a dydw i erioed wedi bod yn fwy balch. Dyna eiriau nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i'n ddigon dewr i'w dweud yn uchel, nac ymhlith ffrindiau a theulu sawl blwyddyn yn ôl. Cefais fy magu mewn pentref nodweddiadol yng Nghymoedd De Cymru, 15 munud o’r dref “brysur” agosaf, sef Pontypridd. Mwynheais yr ysgol, gweithiais yn galed, roedd gen i gylch enfawr o ffrindiau, roedd gen i gariadon ac eto roedd rhywbeth bob amser ar goll.

Sylweddolais fy mod yn cael fy nenu at fechgyn –beth yw hyn! Sut alla i gael fy nenu at fechgyn? Doeddwn i ddim wedi dod ar draws rhywun a oedd yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu draws* o'r blaen. Roeddwn wedi fy amgylchynu gan ffrindiau a pherthnasoedd heterorywiol. Doedd gen i neb i siarad â nhw. Doeddwn i ddim yn gwybod am unrhyw un i siarad â nhw, felly rhoddais y teimladau hynny mewn bocs a cheisio anghofio amdanyn nhw. Wrth i mi fynd yn hŷn, roedd yn anoddach cadw'r bocs dan glo, roeddwn yn dod yn fwy ymwybodol o LHDTCRhA+, ond roeddwn hefyd yn ymwybodol o'r agweddau tuag at y bobl hyn. Roedd perthnasoedd heterorywiol yn mynd yn fwy difrifol ond roedd rhywbeth ar goll o hyd. Roeddwn i'n gwybod beth oedd e, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i ddelio ag e, felly arhosodd yn y bocs. Dyna'r cyfan y gallwn i ei wneud ar y pryd. Nawr, hoffwn i pe gallwn siarad â’r Nathan ifanc, dryslyd ac unig hwnnw a dweud wrtho ei fod yn iawn, a bydd popeth yn iawn. Neu o leiaf bydd pethau'n iawn ar y cyfan.

Graddiais o'r brifysgol, ond doeddwn i ddim yn “darganfod fy hun” yn y brifysgol fel y gwnaeth ffrindiau i mi. Dechreuais weithio i'r GIG.  Roeddwn i’n dal i fod “yn celu fy hunaniaeth” ond roeddwn i’n meithrin cyfeillgarwch a pherthnasoedd gyda phobl oedd yn LHDTCRhA+ ac roeddwn i’n gwybod os oeddwn i eisiau bod yn fi fy hun, roedd angen i mi gymryd rhai camau mawr. Un ohonynt oedd symud allan o'r Cymoedd, i ffwrdd o'r tafarndai llawn gwrywdod gwenwynig, a gweld yr un bobl yr wyf wedi bod yn cuddio fy ngwir hunan rhagddynt ers blynyddoedd. Mynd i rywle cynhwysol, rhywle nad oedd pobl yn fy adnabod, a gallwn i ddechrau bywyd newydd i bob pwrpas. Symudais i Gaerdydd yn y pen draw, dinas lle roedd pobl yn mynd a dod, a ddim yn cymryd llawer o ddiddordeb yn eich bywyd, a phobl nad oeddwn wedi tyfu i fyny o'u cwmpas nac yn agos atynt, ond mae'n dal i fod yn lle cynhwysol ac agored i'w alw'n gartref.

Mae stori dod allan pawb yn wahanol ond yn debyg mewn cymaint o ffyrdd - fel dwi'n hoffi dweud, yr un peth ond yn wahanol. Roeddwn i'n ofni cael fy ngwrthod gan y bobl sy'n fy ngharu i, teulu a ffrindiau. Roeddwn i ofn beth fyddai fy mrawd yn ei ddweud, a fyddai mam byth eisiau fy ngweld eto, neu a fyddai fy ffrind gorau yn stopio siarad â mi. Nid oedd hynny’n adlewyrchiad ohonynt fel pobl, ond yn syml y blynyddoedd ohono i’n cuddio fy ngwir hunan, yr ymwybyddiaeth o agweddau tuag at fod yn LHDTCRhA+, a dim ond ofn pur.

Cyrhaeddodd diwrnod “Dod Allan”, fel y mae i filiynau ohonom bob dydd. Ac er na af i fanylu, diflannodd y blynyddoedd o ofn a chloi fy ngwir hunan i ffwrdd mewn bocs mewn amrantiad, a hynny wrth eistedd mewn car yn ciwio i fynd allan o faes parcio Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd! Yn y diwedd, ni ddigwyddodd sut roeddwn i eisiau iddo ddigwydd, ar ôl misoedd o gynllunio, ond fe ddigwyddodd yn y ffordd yr oedd i fod i ddigwydd. Roeddwn i'n teimlo cymaint o gariad gan fy nheulu a fy ffrindiau ag yr oeddwn wedi'i wneud bob dydd o fy mywyd cyn hynny, oherwydd nid oedd dim byd wedi newid iddyn nhw. Roedden nhw'n fy ngharu i, yn dwlu arna i ac roeddent eisiau i mi fod yn hapus. Collais gyfri faint o ddiwrnodau dod allan a gefais yn y diwedd, gyda fy ffrind gorau, fy nghydweithwyr anwylaf, ac roedd yr ofn a'r pryder hwnnw'n llythrennol yn diflannu. Roedd yn rymusol, roedd yn hapusrwydd pur, roedd yn emosiynol. A’r thema gyffredin o ran ymateb? “Ie, roeddwn i bob amser yn gwybod dy fod yn hoyw, beth yw’r ots?” 

Gan symud ymlaen i’r presennol, rwy'n dal i fyw yng Nghaerdydd, fflat hyfryd i lawr yn y Bae, gyda fy nghariad - rhywbeth nad oeddwn i’n meddwl fyddai'n bosibl flynyddoedd yn ôl. Mae e hefyd yn gweithio yn y GIG. Allai bywyd ddim bod yn well. Rydw i wedi bod i Balchder Caerdydd, lle dwi erioed wedi bod mor emosiynol a hynny oherwydd yr undod, cynwysoldeb, llawenydd pur a chyfeillgarwch pawb yn dod at ein gilydd i ddathlu pwy ydyn ni, ond hefyd i gofio'r rhai a frwydrodd i ni allu dathlu Balchder.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am derfysgoedd Stonewall, ond mae un peth rwy’n gofyn i chi ei wneud os ydych chi'n darllen hwn, sef cymryd 5 munud allan o'ch diwrnod a darllen amdano, a deall pam, hyd yn oed heddiw, rydym yn parhau i frwydro i roi terfyn ar wahaniaethu a homoffobia.

Gwrthryfel Stonewall: 50 mlynedd o hanes LHDT

Nid “rhywbeth hoyw” yw Balchder, nid yw ar gyfer “yr hoywon” yn unig, mae ar gyfer pawb. Ydy, mae'n fis bob blwyddyn, ac ydy, mae'r digwyddiadau i ddathlu LHDTCRhA+. Ond yn ei hanfod, mae'n fwy na hynny, mae'n dathlu amrywiaeth a chynwysoldeb pob un ohonom, mae'n dathlu undod, bod yn agored a grymuso.

Mae cymaint o ddigwyddiadau Balchder yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Rwy’n eich annog i fynd i un gyda’ch ffrindiau, gyda’ch teuluoedd a chofleidio’r dathliad o amrywiaeth a chynhwysiant.

Ydw, rydw i'n byw bywyd na feddyliais y byddwn yn gallu ei wneud. Rwy'n hapusach nawr nag y bûm erioed o'r blaen. Mae dyn yr wyf yn ei garu yn fy ngharu i, ac mae gennym gymaint o gynlluniau i deithio gyda’n gilydd a gweld y byd. Ond dyw'r byd ddim mor groesawgar â Chaerdydd, neu mor groesawgar ag o’n i’n ei feddwl.

Ar ôl noson allan yn un o’r prif fannau “dim-labeli” LHDTCRhA+ yn y brifddinas, a gafodd ei ddewis fel y lleoliad LHDTC+ gorau yn y DU, daliodd fy mhartner a minnau dacsi adref, cyn cerdded y filltir neu fwy olaf oherwydd rhwystr ffordd. Roedden ni 5 munud o gartref ac yn cerdded law yn llaw, fel rydyn ni'n ei wneud fel dau ddyn hoyw balch, pan groesodd grŵp o fechgyn mewn hwdis y ffordd tuag atom a dechrau gweiddi casineb homoffobig yn ymosodol. Wnaethon ni ddim dweud gair, roedden ni mewn sioc, yn fud. Ac mae’n fy mhoeni hyd heddiw, oherwydd nid oedd yr un ohonom yn teimlo y gallem amddiffyn ein hun yn y foment honno, yn enwedig fi. Hwn oedd ein profiad cyntaf o homoffobia yng Nghaerdydd. Roedd yn oriau mân y bore, roedd hi’n dywyll, a chriw o fechgyn ifanc mewn hwdis yn ymosod arnom ar lafar. Roeddwn yn poeni beth allai ddigwydd i ni.

Mae homoffobia yn dal i fodoli yng Nghaerdydd, mewn dinas lle rydw i wedi teimlo'n ddiogel i fod pwy ydw i ers sawl blwyddyn.

Nid yw'r noson honno yng Nghaerdydd wedi ein rhwystro rhag dal dwylo wrth gerdded trwy'r Bae, na thrwy'r ddinas, nac unrhyw le. Ni all unrhyw berson neu eiriau ein rhwystro rhag bod yr hyn ydyn ni, ac ni fydd byth.

Rydyn ni'n 2 ddyn hoyw balch, a dydyn ni ddim yn gwneud pwynt o’i gyhoeddi. Yn syml, rydyn ni'n bod yn ni’n hunain yn y ddinas rydyn ni'n ei charu, ymhlith pobl sy'n byw eu bywydau bob dydd, yn union fel ni.