Neidio i'r prif gynnwy

Meddyginiaethau Digidol dan sylw yng Nghynhadledd MediWales Connects 

20 Mehefin 2023

Bydd trawsnewid meddyginiaethau’n ddigidol dan y chwyddwydr yng Nghynhadledd Cydweithio’r GIG MediWales Connects, a gynhelir yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin. 

Bydd Laurence James, Arweinydd Rhaglen y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, yn rhoi mewnwelediad i’r cynnydd wrth i GIG Cymru ddechrau ar y newid mwyaf i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau ers degawdau. 

Oherwydd bod 81 miliwn o eitemau yn cael eu rhagnodi bob blwyddyn gan feddygon teulu, gan ddefnyddio papur yn bennaf, mae angen newid digidol i wneud y broses gyfan yn fwy diogel ac yn haws i gleifion ac i glinigwyr. 

Dywedodd Laurence: “Mae cydweithio ac ymgysylltu yn bwysig iawn er mwyn cyflawni trawsnewid gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol yn llwyddiannus, felly mae hwn yn gyfle gwych i rannu’r hyn yr ydym yn ei wneud.” 

Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, a letyir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn dod â phedair rhaglen genedlaethol ynghyd: 

  • Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol Bydd meddygon teulu a rhagnodwyr eraill yn anfon presgripsiynau'n electronig i'r fferyllfa y mae’r unigolyn wedi’i dewis - heb fod angen ffurflen bapur. 
  • Rhagnodi Electronig Gofal Eilaidd a Gweinyddu Meddyginiaethau: bydd siartiau a phresgripsiynau meddyginiaethau papur yn dod yn rhywbeth o’r gorffennol wrth i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau ar draws holl ysbytai Cymru symud i system ddigidol. 
  • Cofnod Meddyginiaethau a Rennir: adeiladu un cofnod cyffredin o feddyginiaethau ar gyfer pob claf yng Nghymru 
  • Ymarferoldeb meddyginiaethau yn Ap GIG Cymru: i roi ffordd hawdd i bobl gysylltu â gwasanaethau gofal iechyd a rheoli eu meddyginiaethau gan ddefnyddio ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur. 

Bydd Laurence yn ymuno â chydweithwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn y Sesiwn Trawsnewid Digidol yn y Cyfarfod Llawn. 

Caiff y sesiwn ei chadeirio gan Rebecca Cook, Cyfarwyddwr y Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol a bydd yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer iechyd a gofal digidol yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyflwyniadau gan Matt Cornish, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd a Mark Frayne, Prif Bensaer Cynorthwyol, y Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol.