20 Mehefin 2023
Bydd trawsnewid meddyginiaethau’n ddigidol dan y chwyddwydr yng Nghynhadledd Cydweithio’r GIG MediWales Connects, a gynhelir yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin.
Bydd Laurence James, Arweinydd Rhaglen y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, yn rhoi mewnwelediad i’r cynnydd wrth i GIG Cymru ddechrau ar y newid mwyaf i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau ers degawdau.
Oherwydd bod 81 miliwn o eitemau yn cael eu rhagnodi bob blwyddyn gan feddygon teulu, gan ddefnyddio papur yn bennaf, mae angen newid digidol i wneud y broses gyfan yn fwy diogel ac yn haws i gleifion ac i glinigwyr.
Dywedodd Laurence: “Mae cydweithio ac ymgysylltu yn bwysig iawn er mwyn cyflawni trawsnewid gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol yn llwyddiannus, felly mae hwn yn gyfle gwych i rannu’r hyn yr ydym yn ei wneud.”
Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, a letyir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn dod â phedair rhaglen genedlaethol ynghyd:
Bydd Laurence yn ymuno â chydweithwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn y Sesiwn Trawsnewid Digidol yn y Cyfarfod Llawn.
Caiff y sesiwn ei chadeirio gan Rebecca Cook, Cyfarwyddwr y Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol a bydd yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer iechyd a gofal digidol yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyflwyniadau gan Matt Cornish, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd a Mark Frayne, Prif Bensaer Cynorthwyol, y Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol.