Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT) Dewis Fferyllfa yn hybu stiwardiaeth sgrinio heintiau

17 Tachwedd 2022

Mae fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn defnyddio gwasanaeth canfod bacteria i annog cleifion i sgrinio rhag heintiau.

Mae gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT) Dewis Fferyllfa yn hyrwyddo stiwardiaeth gwrthficrobaidd trwy ddefnyddio dull cam wrth gam ar gyfer archwiliad clinigol gan fferyllydd. Mae hyn hefyd yn annog cleifion sy’n bodloni’r meini prawf i ddefnyddio’r gwasanaeth swab dolur gwddf yn y fan a’r lle i sgrinio rhag heintiau bacterol.  Os na chanfyddir bacteria, mae’n debyg mai firws sy’n achosi’r dolur gwddf - sy’n golygu na fyddai gwrthfiotigau yn helpu. Bydd canlyniadau swab gwddf ar gael mewn munudau ac os oes haint bacterol yn bresennol a bod gwrthfiotigau’n gallu helpu’r claf, gall y fferyllydd eu darparu.

Dim ond ar ôl i'r fferyllydd drafod y manteision a'r niwed posibl y caiff gwrthfiotigau eu rhoi, gan gynnwys ymwrthedd i wrthfiotigau. Anfonir canlyniadau yn ddigidol at feddyg teulu'r claf trwy Dewis Fferyllfa, y seilwaith digidol a ddatblygodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gefnogi darparu gwasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.

Mewn cyfarfod Ymchwil Heintiau yn Sweden yn ddiweddar, siaradodd Dr Efi Mantzourani, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso Clinigol Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Darllenydd yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd, ag aelodau o GRIN (y Rhwydwaith Ymchwil Heintiau ar gyfer Practis Cyffredinol) - Rhwydwaith Ewropeaidd o ymchwilwyr sy'n astudio heintiau'r llwybr anadlol a heintiau eraill ym maes gofal sylfaenol am fanteision y gwasanaeth.

Cyflwynodd ganlyniadau gan gynnwys gwerthusiad hirdymor o’r gwasanaeth, ac roedd 94% o'r cleifion a dderbyniodd ymgynghoriad gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT) yn nodi y byddent wedi gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu neu’r gwasanaethau brys pe na bai’r gwasanaeth ar gael. Arweiniodd un o bob pump ymgynghoriad at gyflenwi gwrthfiotigau – gan bwysleisio’r rhan ganolog y gall fferyllwyr cymunedol ei chwarae mewn stiwardiaeth gwrthficrobaidd. Clywodd cynrychiolwyr hefyd am sut mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda chronfa ddata SAIL i edrych ar ragor o ddata a fydd yn helpu i werthuso'r gwasanaeth a phrofiad y claf.

“Roedd hyrwyddo gwerth Dewis Fferyllfa mewn cyfarfod rhyngwladol yn ysbrydoliaeth, heb hynny ni fyddem wedi gallu cael data cenedlaethol ar ymgynghoriadau gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT),” meddai Dr Efi Mantzourani. “Mae’n fraint i ni yng Nghymru gael yr adnodd hwn, ac rwy’n gobeithio cynrychioli Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn cyfarfodydd yn y dyfodol i gyflwyno holl ddatblygiadau’r system.”