Neidio i'r prif gynnwy

Mae diweddariad newydd i Borth Clinigol Cymru (WCP) yn helpu i ddarparu gofal gwell a mwy diogel

27 Mai 2026

Gall clinigwyr ledled Cymru weld cynllun gofal y dyfodol (FCP) person yn llawer cyflymach nawr o ganlyniad i ddiweddariad ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP), y maent yn ei ddefnyddio i weld cofnod claf.

Wedi'i ddatblygu gan IGDC gyda phartneriaid ar draws GIG Cymru gan gynnwys byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, cleifion a grwpiau gofalwyr, mae'r diweddariad yn cefnogi rhannu gwybodaeth am gleifion yn fwy diogel a gofal wedi'i gydlynu'n well. Mae hyn yn adlewyrchu sut y dylai cleifion â salwch difrifol a'r rhai sy'n derbyn gofal lliniarol dderbyn eu gofal.

Yma, gellir cofnodi trafodaethau pwysig gyda chleifion a theuluoedd am driniaethau sy'n debygol o weithio, yn ogystal â thriniaethau nad ydynt yn ddefnyddiol neu'n ddiangen. Efallai bod claf wedi ysgrifennu penderfyniad o flaen llaw i wrthod triniaeth, fel adfywio cardio-pwlmonaidd neu diwbiau bwydo mewnwthiol. Fodd bynnag, os byddant yn colli'r gallu i gyfleu hyn, efallai na fydd clinigwyr yn gwybod yr hyn a ddywedwyd neu a gofnodwyd. Mae baner FCP yn amlygu ac yn gallu storio dogfennau wedi'u huwchlwytho, gan gynnwys ffurflenni DNACPR wedi'u sganio, Cofnodion Penderfyniadau Budd Pennaf, Datganiadau Ymlaen Llaw, neu ddogfen Atwrneiaeth Arhosol dros  Iechyd a Lles. Mae hyn hefyd yn bwysig i deuluoedd oherwydd gall leihau straen ar adegau anodd drwy helpu staff i ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf yn gywir ac yn gyflym, yn hytrach na mynd yn ôl at y teulu i ofyn cwestiynau neu ofyn am gopïau papur o drafodaethau wedi'u dogfennu am driniaethau y dylid neu na ddylid eu defnyddio.

Mae'r diweddariad diweddar yn golygu y gellir agor yr holl ddogfennau allweddol sydd wedi'u storio ar gofnod claf, fel ei gynllun gofal y dyfodol a phenderfyniadau ar gyfer gofal diwedd oes, yn uniongyrchol o gofnod y claf. Bydd y tab 'Cynllun Gofal y Dyfodol a drafodwyd’ ar frig sgrin Porth Clinigol Cymru yn ymddangos ar ôl clicio arno a bydd yn tynnu sylw at y drafodaeth berthnasol neu'r ddogfen a uwchlwythwyd. Mae hyn yn helpu timau clinigol i wneud penderfyniadau cyflymach gyda hyder, yn enwedig mewn sefyllfaoedd brys.

Mae'r system hefyd yn dangos pryd mae dogfen wedi'i diweddaru neu ei thynnu'n ôl. Mae hyn yn hanfodol gan fod angen i glinigwyr weld y sgyrsiau diweddaraf sydd wedi digwydd gyda'r claf a'i deulu, gan y gall y rhain newid yn aml tra bod claf yn cael gofal. Gellir tynnu dogfen sydd wedi'i huwchlwytho trwy gamgymeriad yn ôl gan ddefnyddio'r swyddogaeth cam-ffeilio.

Cyn y diweddariad hwn, byddai staff fel arfer wedi gorfod chwilio trwy nodiadau papur neu wirio mwy nag un system electronig i ddod o hyd i gofnodion. Roedd hyn yn oedi gofal ac yn ychwanegu pwysau ar deuluoedd a thimau clinigol pan oedd penderfyniadau'n hollbwysig o ran amser. Awgrymodd argymhellion Ymchwiliad Covid y DU, yn ogystal ag Adolygiad DNACPR Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2024, yr angen am gofnodion cleifion electronig gwell mewn perthynas â ffurflenni pwysig sy'n llywio cynllunio gofal y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Mark Taubert, Cyfarwyddwr Clinigol a Meddyg Ymgynghorol ar gyfer Meddygaeth Liniarol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae Cymru wedi bod yn gweithio tuag at ddull mwy cydlynol o gynllunio gofal y dyfodol ers amser maith. Mae'r diweddariad hwn yn gam ymarferol ymlaen; mae'n helpu clinigwyr i ddod o hyd i ddogfennau allweddol yng nghofnod y claf, lle bynnag y mae'r person hwnnw'n derbyn  gofal, gan ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae'n cyd-fynd â'r dull Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys yng Nghymru, yn enwedig i'r rhai sydd â salwch difrifol iawn ac anghenion gofal lliniarol.

“Fel clinigwyr, rydym bob amser yn ymdrechu i ddarparu gofal mwy diogel a thosturiol a rhoi’r claf yn gyntaf. Gall gwneud manylion cynllunio gofal y dyfodol yn haws i'w canfod leihau'r risg o ymyriadau diangen, poenus neu ofidus a chefnogi penderfyniadau sy'n cyd-fynd â dymuniadau'r claf, gan leddfu straen i'r claf, ei deuluoedd a staff yn ystod cyfnodau heriol.”

Dywedodd claf o dan ofal yr Athro Taubert: “Mae cael fy holl ddogfennau mewn un lle yn gwneud llawer o synnwyr ac yn lleihau'r amser sydd gennyf i drafod ac ail-drafod y triniaethau y byddwn i'n eu hystyried, a'r rhai nad wyf eu heisiau o gwbl, fel cywasgiadau ar y frest a siociau trydan tra byddaf ar ddiwedd fy oes.”

Dywedodd Dr Idris Baker, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes: “Mae nifer gynyddol o bobl, llawer ohonynt ag anghenion ac amgylchiadau cynyddol gymhleth, sydd eisiau i’w lleisiau gael eu clywed mewn penderfyniadau am eu gofal. Mae llawer yn manteisio ar y cyfle i roi eu meddyliau a'u dymuniadau ar bapur o flaen llaw a'u rhannu gyda ni fel y gallant fwrw ymlaen â’u bywydau a chanolbwyntio ar bethau eraill. Mae'r system hon, sy'n sicrhau y gall staff clinigol weld y wybodaeth honno'n gyflym ac yn hawdd pan fydd ei hangen arnynt i helpu i wneud penderfyniadau, yn rhan bwysig o waith ein Rhaglen Genedlaethol i helpu mwy o bobl i gael y gofal a'r driniaeth gywir, pryd a ble mae eu hangen arnynt.”

Dilynwch ni: