13 Hydref 2022
Creodd y Ganolfan Ragoriaeth Microsoft GIG Cymru newydd fodel gweithredu brys ar gyfer GIG 111 Cymru, ar ôl i systemau TG un o’i gyflenwyr orfod cael eu cau, yn dilyn ymosodiad seiber ledled y DU.
Ar ôl yr ymosodiad ar y cyflenwr Advanced ym mis Awst 2022, bu’r gwasanaeth 111 yn gorfod dychwelyd i broses â llaw i reoli gwasanaethau y tu allan i oriau. Bu’n rhaid e-bostio gwybodaeth am alwadau i fyrddau iechyd unigol (a rhyngddynt) a gynyddodd y gwaith gweinyddol yn sylweddol, ac achosi oedi posibl a risg glinigol.
Roedd y datrysiad yn cynnwys defnyddio cydrannau platfform Microsoft 365 gan gynnwys rhestr olrhain SharePoint a chymwysiadau Power Platform i ddarparu model gweithredu interim cadarn. Mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn Cytundeb Microsoft Enterprise Cymru gyfan, ynghyd â sefydlu Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 genedlaethol i ddarparu cymorth, datblygiad ac arloesedd cynaliadwy hirdymor.
Cysylltodd Dr Owen Weeks, y Cyfarwyddwr Clinigol Dros Dro ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, â’r Ganolfan Ragoriaeth i gael cymorth yn dilyn y tarfu ar y gwasanaeth 111,
“Ni allaf orbwysleisio cymaint o broblem mae hyn wedi bod i ofal sylfaenol brys yng Nghymru” esboniodd, “Roedd rhaid i ni dynnu pawb i mewn, er mwyn mynd ati i drosglwyddo gwybodaeth cleifion â llaw rhwng nifer o systemau a gwasanaethau. Rydym yn delio â nifer enfawr o gleifion - dros 30,000 ohonynt yn ystod yr 8 wythnos diwethaf.
“Gyda chymorth y Ganolfan Ragoriaeth, o fewn pythefnos, roedd y broses â llaw wedi‘i throi’n system genedlaethol gynhwysfawr, ddi-dor ac roedd gwylio’r Ganolfan Ragoriaeth wrth eu gwaith yn anhygoel. Mae wedi bod yn ddarn anhygoel o waith, ac rydym yn dragwyddol ddiolchgar”
Llwyddodd y Ganolfan Ragoriaeth i ddatblygu, profi a lansio'r datrysiad yn ddiogel ymhen dim o amser, gyda chymorth llawer o bartneriaid. Buont yn gweithio gyda chydweithwyr yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, clinigwyr o bob bwrdd iechyd, tîm Newid Busnes Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), a thimau Sicrwydd a Llywodraethu Gwybodaeth, yn ogystal â chyflenwr trydydd parti, sef TPX Impact. Dywedodd Lyn Rees, Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth,
“Roedd cydweithio yn hollbwysig. Heb gydweithio ni fyddem wedi gallu datblygu’r datrysiad.
“Creodd tîm Newid Busnes DHCW wyth fideo hyfforddi mewn 48 awr, cyflwyno 27 o sesiynau hyfforddi o ddydd Iau i ddydd Llun cyn y lansiad, ac roeddent wrth law yn ystod yr wythnos ‘mynd yn fyw’ i ddarparu cymorth sgwrsio byw o 8am tan hanner nos.”
Diolchwyd i’r Ganolfan Ragoriaeth, a phawb a fu’n ymwneud â’r gwaith gan lawer o bobl ar draws GIG Cymru, gan gynnwys derbyn llythyr ffurfiol o ddiolch a gwerthfawrogiad gan Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, ac Uwch Berchnogion Cyfrifol y Ganolfan Ragoriaeth.
Mae Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru yn dîm medrus iawn sy’n darparu portffolio o wasanaethau cenedlaethol ac offer, cymwysiadau a systemau awtomatig sy’n cael eu diweddaru’n gyson er mwyn gwella canlyniadau cleifion y GIG a chynorthwyo sefydliadau GIG Cymru i roi datrysiadau lleol ar waith.