Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o alluogi pasbort brechu Cymru

8 Gorffennaf 2021

Rydym yn helpu i roi mynediad i bobl Cymru at dystysgrifau ‘pasbort’ brechu. 

Mae ein harbenigwyr technoleg a data wedi bod yn cydweithio ag NHS Digital i ddatblygu datrysiad i sicrhau bod data brechu Cymru ar gael trwy wasanaeth Pàs COVID digidol NHS England. 

Mae hyn yn golygu y gall pobl yng Nghymru gael mynediad i'w statws brechu ar y rhyngrwyd bellach os oes angen iddynt deithio ar frys a chwrdd â'r gofynion brechu sy'n berthnasol i'r wlad y maent yn teithio iddi. Gellir cael mynediad at Bàs COVID y GIG yma.

Ar y diwrnod cyntaf (25 Mehefin) uwchlwythodd DHCW dros 3.7 miliwn o gofnodion i wasanaeth pàs COVID, ac mae llifoedd data parhaus yn cadw cofnodion brechu yn gyfredol. 

Gwnaethom hefyd ddatblygu'r feddalwedd a'r gronfa ddata sydd eu hangen i reoli ceisiadau gan bobl sy'n gofyn am lythyr pàs COVID. 

Mae llythyrau pàs COVID y GIG wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y rhai sydd angen teithio'n rhyngwladol ar frys a darparu prawf o'u statws brechu, ac mae tystysgrifau'n cael eu hanfon yn y post. Gwnaed cais am dros 18,000 hyd yma. Bydd y llythyrau’n parhau i gael eu cyhoeddi dim ond i bobl nad ydynt yn gallu cael gafael ar Bàs digidol trwy Wasanaeth Ardystio Brechiadau Cymru (WVCS), sy’n cael ei gynnal gan dîm olrhain cysylltiadau Cyngor Abertawe. Gall pobl wneud cais am Bàs COVID y GIG dwyieithog ar ffurf llythyr drwy ffonio 0300 303 5667. 

Nid yw Ap y GIG a ddefnyddir yn Lloegr ar gael i bobl ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd.