18 Hydref 2022
Mae tîm caffael DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GO Cymru, sy’n dathlu cyflawniadau caffael ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector Cymru.
Mae’r tîm wedi cyrraedd rownd derfynol y categori caffael cydweithredol am eu gwaith ar Gytundeb Menter Microsoft Cymru Gyfan. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae DHCW wedi gweithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i sicrhau'r cytundeb pum mlynedd i ddarparu'r cynhyrchion, offer a gwasanaethau Microsoft diweddaraf i GIG Cymru.
Dywedodd Matthew Perrott, yr Uwch Arweinydd Caffael, “Cafodd y tîm negodi ei gefnogi gan arweinwyr digidol, cyllid a thechnegol o bob rhan o Gymru, a hebddynt ni fyddai’r fargen wedi bod yn bosibl. Mae’r enwebiad hwn am wobr yn gydnabyddiaeth am eu holl amser, ymdrechion ac ymddiriedaeth wrth weithio gyda thîm Gwasanaethau Masnachol DHCW i sicrhau canlyniad o safon fyd-eang.”
Cynhelir seremoni Gwobrau GO Cymru ar 8 Tachwedd yng Nghaerdydd.