Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliannau digidol i bresgripsiynau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mawrth 22 2024 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol o ran cyflwyno system ddigidol glinigol newydd ar gyfer gwella’r broses o bresgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau ar draws ei safleoedd.

Mae cyflwyno’r system Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) ar draws safleoedd ysbytai yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg wedi symud gam yn nes, ac mae’r Bwrdd Iechyd wedi dewis Nervecentre fel y contractwr a ffefrir i ddarparu’r system.

Mae ePMA yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP), a oruchwylir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) sy’n anelu at wneud y gwaith o bresgripsiynu, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol, er mwyn cleifion a chlinigwyr.

Bydd y system ePMA newydd yn disodli siartiau cyffuriau papur sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd wrth erchwyn gwelyau cleifion, a bydd yn golygu bod modd presgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau'n fwy diogel. Bydd y system yn gallu gwirio alergedd a rhyngweithiad cyffuriau, gan leihau'r tebygolrwydd o gamgymeriadau meddyginiaeth, a bydd yn gwella arferion gwaith o ddydd i ddydd er budd gofal staff a chleifion, gan y bydd y broses yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon.

Dywedodd yr Athro Meriel Jenney, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro “Mae cyflwyno ePMA yn newid pwysig a sylweddol i staff ar draws ein safleoedd cleifion mewnol, gan gynnwys gwasanaethau cleifion allanol gan y bydd yn gwella effeithlonrwydd a diogelwch y broses o roi presgripsiynau.

“Mae gofal a phrofiad cleifion yn flaenoriaeth allweddol i’r Bwrdd Iechyd a bydd y system newydd hon yn cyflymu’r broses o roi presgripsiynau a meddyginiaethau yn yr ysbyty ac i gleifion allanol, yn atgoffa staff nyrsio pan fydd angen dosau, ac yn golygu y bydd modd rhoi presgripsiynau o bell yn ogystal ag wrth ochr y gwely.

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i drawsnewid digidol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd yr ydym yn darparu gofal, felly mae’n dda gweld ePMA bellach yn datblygu o fewn y sefydliad.  Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i daith y claf a llwyth gwaith cydweithwyr.”

Mae ePMA yn rhan o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2021 gyda DHCW yn goruchwylio’r rhaglen drawsnewid yng Nghymru.

Dywedodd Uwch Berchennog Cyfrifol DHCW ar gyfer ePMA Gofal Eilaidd, Dr Lesley Jones: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ePMA Gofal Eilaidd yng Nghymru. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi ei gyflenwr dewisol a disgwylir iddo drawsnewid diogelwch cleifion gyda phresgripsiynu electronig ym mhob ysbyty yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'n amser tyngedfennol, nid yn unig i'r tîm DMTP cyfan, ond i'r holl gleifion a staff gofal iechyd a fydd yn cael budd ohono.

“Mae’n gam arall tuag at bob ysbyty yng Nghymru yn symud i’r system ddigidol drawsnewidiol hon ac edrychwn ymlaen at weld pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yn cyhoeddi eu dewis gyflenwr yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans: “Mae hyn yn nodi dechrau taith gyffrous i drawsnewid y ffordd y caiff meddyginiaethau eu presgripsiynu a’u gweinyddu ym mhob ysbyty yng Nghymru. Mae technoleg ddigidol yn newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd yng Nghymru, yn gwella effeithlonrwydd, yn rhyddhau amser clinigwyr i ddarparu gofal cleifion, ac yn cefnogi gwelliannau mewn canlyniadau iechyd i bobl sydd angen cymorth gan y GIG.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn presgripsiynu electronig yn cefnogi ymdrechion Caerdydd a’r Fro a byrddau iechyd eraill i sicrhau bod system presgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel, gan gyfrannu at GIG sy’n barod heddiw ac ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y broses o roi hyfforddiant a datblygu’r system ePMA newydd yn cael ei chyflwyno ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dros y misoedd nesaf, a bydd yn cael ei darparu gan dîm amlddisgyblaethol sydd wedi bod yn creu system sy’n gweithio i’r holl staff, ochr yn ochr â’r systemau digidol sydd eisoes yn cael eu defnyddio. Bydd cydweithwyr yn cael eu cefnogi ar-lein ac yn bersonol wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen ac rydym yn rhagweld y bydd y wardiau cyntaf yn dod ar-lein ym mis Rhagfyr 2024.