Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig bellach ar gael ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghymru

29 Medi 2026

Mae pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru bellach yn gallu derbyn presgripsiynau electronig gan feddygfeydd teulu drwy'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS). 

Mae'r garreg filltir yn nodi cam mawr ymlaen yn y gwaith trawsnewidiad digidol o ragnodi a dosbarthu yng Nghymru. Dan arweiniad y Rhaglen Moddion Digidol a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), mae EPS yn helpu i wneud y broses ragnodi yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

Mae EPS yn caniatáu i bresgripsiynau gael eu hanfon yn electronig o bractis meddyg teulu i fferyllfa neu ddosbarthwr cymunedol enwebedig y claf, gan ddileu'r angen am y ffurflen bresgripsiwn papur gwyrdd draddodiadol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn galluogi olrhain presgripsiynau'n electronig, gan roi gwell gwelededd i staff gofal iechyd o ble mae presgripsiwn yn y broses. 

Wrth i EPS ddod ar gael ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghymru, croesawodd Mahshid Chegounchei, Fferyllydd yn Fferyllfa Raglan, gyflwyniad y gwasanaeth a thynnodd sylw at y manteision y disgwylir iddynt eu dwyn. 

Dywedodd Mahshid: "Mae'n wych gweld fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru bellach yn gallu derbyn presgripsiynau electronig drwy EPS." 

"Drwy leihau dibyniaeth ar bresgripsiynau papur a darparu gwell gwelededd o ble mae presgripsiynau yn y broses, mae EPS yn gwneud y profiad yn llyfnach i gleifion ac yn cefnogi ffyrdd mwy effeithlon o weithio ar gyfer timau fferyllfeydd." 

"Rydym yn falch o fod yn rhan o'r cam arwyddocaol hwn ymlaen ar gyfer rhagnodi a dosbarthu yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at weld y manteision yn parhau i ddatblygu wrth i fabwysiadu dyfu." 

Ers mis Tachwedd 2023, mae mwy na 36 miliwn o eitemau presgripsiwn wedi cael eu hawlio'n llwyddiannus trwy EPS, gan fod o fudd i dros filiwn o gleifion. Mae'r gwasanaeth bellach ar gael ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghymru, gyda disgwyl i hyd at 30 o feddygfeydd teulu fynd yn fyw bob mis cyn y cyflwyniad arfaethedig erbyn 30 Tachwedd 2026. 

Dywedodd Samantha Fisher, Cadeirydd y rhaglen EPS Gofal Sylfaenol: 

“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn gamp wych ac yn dyst i ymroddiad pawb sydd wedi chwarae rhan wrth gyflawni EPS ledled Cymru. 

“Mae cleifion, ymarfer cyffredinol a thimau fferyllfeydd eisoes yn teimlo’r manteision, o daith bresgripsiwn fwy cyfleus a gwelededd gwell o bresgripsiynau i lai o ddibyniaeth ar bapur a ffyrdd mwy effeithlon o weithio. 

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cymorth a’u hymrwymiad wrth gyrraedd y cam pwysig hwn yn y broses o gyflwyno EPS.” 

Dywedodd Laurence James, Pennaeth Rhaglenni Meddyginiaethau yn IGDC: 

"Mae cyrraedd y garreg filltir lle gall pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru bellach dderbyn presgripsiynau'n ddigidol gan feddygfeydd teulu drwy'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn gamp sylweddol ac yn dyst i bawb a gymerodd ran. Mae'n cynrychioli blynyddoedd o waith partneriaeth rhwng timau fferyllfeydd, practisau meddygon teulu, cyflenwyr systemau a sefydliadau partner ar draws y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae'r ymdrechion hyn yn helpu i ddarparu gwasanaeth rhagnodi mwy effeithlon, effeithiol a symlach, gan wella'r profiad i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.” 

Mae EPS eisoes yn helpu i leihau'r defnydd o bapur, gwella olrhain presgripsiynau ac arbed amser i dimau fferyllfeydd a phractisau meddygon teulu. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi disgrifio'r gwasanaeth fel un "sy'n newid popeth", gan dynnu sylw at fanteision fel llai o alwadau rhwng fferyllfeydd a phractisau meddygon teulu, olrhain presgripsiynau'n haws ac effeithlonrwydd gwell. 

Meddai Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, 

"Rwyf wrth fy modd bod pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru bellach yn gallu derbyn presgripsiynau electronig drwy EPS, gan nodi carreg filltir bwysig yn y broses o foderneiddio gwasanaethau presgripsiynu a dosbarthu. 

"Mae EPS eisoes yn gwneud taith presgripsiwn mwy na miliwn o bobl yng Nghymru yn fwy cyfleus, ac mae'n gwella effeithlonrwydd mewn fferyllfeydd a phractisau meddygon teulu.  Mae cael gwared ar bresgripsiynau papur a'r prosesau â llaw sy'n mynd gyda nhw yn galluogi fferyllwyr i dreulio mwy o'u hamser yn cefnogi cleifion a gofalwyr, gan wella mynediad at wasanaethau clinigol i gleifion, a lleihau'r pwysau oddi ar rannau eraill o'r GIG. 

Mae cyflwyno'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn rhan o drawsnewidiad llawer ehangach o rôl fferyllfeydd cymunedol ac rwy'n edrych ymlaen at weld pob claf a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yma yng Nghymru yn elwa o'r gwasanaeth wrth i'w ddefnydd barhau i ehangu."

Mae mabwysiadu EPS yn parhau i dyfu wrth i IGDC weithio gyda phartneriaid i gefnogi'r practisau meddygon teulu sy'n weddill i fynd yn fyw gyda'r gwasanaeth. 

Am ragor o wybodaeth am EPS, ewch i adran Moddion Digidol gwefan IGDC.