Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith aml-werthwr i gefnogi e-ragnodi mewn ysbytai

26 Gorffennaf 2022

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydlu fframwaith aml-werthwr ar gyfer e-ragnodi mewn gofal eilaidd (ePMA) ar ran byrddau iechyd GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae'n un rhan o'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP) uchelgeisiol sy'n ceisio gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhob man yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Bydd y cytundeb yn caniatáu i sefydliadau GIG Cymru, yn lleol, 'alw i ffwrdd' eu gofynion. Bydd y cwmpas yn cynnwys meddalwedd a datblygiad parhaus, uwchraddio a chynnal a chadw.

Rhaid i atebion ddangos tri gallu craidd i'w penodi i'r fframwaith: cymorth gwneud penderfyniadau rhagnodi archwiliadwy; y gallu i gofnodi a monitro cyhoeddi a rhoi deunyddiau fferyllol; a'r gallu i ryngwynebu â systemau lleol a chenedlaethol, yn ogystal â gyda'r systemau rhoi meddyginiaethau i gleifion a rheoli stoc fferylliaeth.

Bydd gofynion manylach yn cael eu pennu fel rhan o gaffael y system leol. Mae Sefydliadau'r GIG eisoes yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r DMTP, i sefydlu timau cyn-gaffael a gweithredu ePMA, er mwyn cyflymu'r broses o gaffael a gweithredu ledled Cymru.

Gwerth y rhaglen yw hyd at £100 miliwn a disgwylir iddi ddechrau 1 Tachwedd 2022 a rhedeg tan 31 Hydref 2026.