21ain Awst 2023
Cyfle i wrando a dysgu ar y cyd yn Sioe HETT 2023
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cadarnhau nifer o siaradwyr yn y sioe Rhagoriaeth Gofal Iechyd Trwy Dechnoleg (HETT) fis Medi yma yn ExCeL Llundain. Mae’r digwyddiad sydd am ddim i’r GIG a’r sector cyhoeddus yn cynnig dau ddiwrnod o sesiynau addysgol, gweithdai a sesiynau grŵp rhyngweithiol sy’n archwilio’r systemau a’r seilwaith sy’n sail i GIG sy’n seiliedig ar ddata ac yn ei alluogi. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyffrous i fod yn arddangos ein gwaith a’n datblygiadau diweddar i dros 4,500 o bobl a fydd yn bresennol.
Ar y diwrnod cyntaf bydd Matt Cornish, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) yn trafod pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth mewn iechyd digidol, sicrhau bod apiau’n hawdd eu defnyddio ac yn annog cleifion i gymryd mwy o gyfrifoldeb wrth reoli eu gofal eu hunain. Gan archwilio pwysigrwydd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, bydd Rhidian Hurle, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, yn ystyried sut i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddio data i lywio trawsnewid gwasanaethau. Bydd Anne Watkins, Arweinydd Gwybodeg Glinigol Mamolaeth DHCW yn ymuno â phanel FemTech, Iechyd Menywod, Cymorth Digidol i Bryderon Iechyd Menywod ac yn archwilio sut mae cymorth yn amlygu ei hun yn y GIG a lle mae angen mwy o arloesi digidol i gynorthwyo menywod ymhellach gyda’u pryderon iechyd.
Ar yr ail ddiwrnod, bydd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud gyda rhagnodi electronig a'r effaith y gall gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol ei chael ar ofal cleifion, gan edrych ar sut mae safonau a gwyliadwriaeth yn helpu i gefnogi gwell diogelwch a gofal cleifion. Mewn panel sy’n trafod effaith cadwyni cyflenwi cadarn a chynllunio ymateb ym maes seiberddiogelwch bydd Jamie Graham, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Seiberddiogelwch, yn archwilio sut y gall cynlluniau cadernid gefnogi dyfodol o amddiffynfeydd cadarn yn erbyn ymosodiadau seiber. Bydd Sian Thomas, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a Mamolaeth Ddigidol Cymru, yn rhannu’r hyn sy’n newydd ym maes technoleg i gleifion, gan archwilio’r symudiad cyhoeddus tuag at ofal iechyd digidol a sut y gall y GIG wneud y gorau o’r hyn sydd eisoes yn ei le.
Wrth ystyried yr heriau unigryw sy’n wynebu gofal sylfaenol, gan gynnwys ariannu, comisiynu, caffael a rheoli contractau gwasanaethau gofal sylfaenol, dywedodd Sam Hall, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl Digidol:
“Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno â'r panel 'Cefnogi Gofal Sylfaenol i Fabwysiadu Galluoedd Digidol' yn nigwyddiad HETT eleni. Mae hyn yn cysylltu’n agos â rhai o’n prif raglenni yn GIG Cymru sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo i ddigidol, gan gynnwys darparu gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol, Ap GIG Cymru a defnydd ehangach o becyn Microsoft Office 365.
Mae digwyddiadau HETT yn darparu llwyfan gwych i arddangos a dysgu gan eraill sy'n siarad am eu heriau a'u llwyddiannau. Rydym yn falch iawn o allu arddangos rhai enghreifftiau o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn y dirwedd gofal iechyd digidol ar draws GIG Cymru a chynrychioli Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn y rhaglen eleni.”
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i: Cynhadledd Iechyd Digidol Dan Ofal Sioe HETT