Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yn dyfarnu Contractau System TG Meddyg Teulu newydd

2 Chwefror 2022

Mae tri chyflenwr TG i Feddygon Teulu wedi ennill Cytundeb Fframwaith newydd i gyflenwi systemau a gwasanaethau TG ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghymru.

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi penodi Cegedim Healthcare Solutions, EMIS HealthTPP..
Mae’r Cytundeb Fframwaith pum mlynedd newydd ar gael i holl bractisiau meddyg teulu yng Nghymru gan y bydd eu trefniadau TG i feddygon teulu presennol yn dirwyn i ben.

Arweiniwyd y weithdrefn gaffael sy’n cydymffurfio’n llawn a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru gan Fwrdd Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac roedd yn cynnwys meddygon teulu, Rheolwyr Practis Meddyg Teulu, Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol y Byrddau Iechyd a Thîm Gofal Sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Dywedodd Martin Dickinson, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r cyflenwyr i ddarparu’r genhedlaeth nesaf o systemau TG i bractisiau meddygon teulu yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i bawb fu’n cymryd rhan am eu gwaith o sicrhau y cyflawnwyd y broses gaffael yn llwyddiannus.”