Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd bod timau DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Arweinwyr Technoleg Ddigidol

26 Mai 2023

Cyhoeddwyd bod tîm y Rhaglen Llysgenhadon Newid, ynghyd â Jamie Parry, arweinydd y tîm, a thîm Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Arweinwyr Technoleg Ddigidol y cylchgrawn Computing.

Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniadau'r unigolion a'r sefydliadau sydd 'wir yn gwneud gwahaniaeth ym maes technoleg ddigidol'.

Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Newid yn grymuso unigolion i gael effaith gadarnhaol yn eu rôl drwy ddeall egwyddorion newid mewn sefydliad, a sut y gallant ddylanwadu arno. Mae Llysgenhadon Newid yn hyrwyddo diwylliant o groesawu a chefnogi newid trwy ymgysylltu â staff a hwyluso gwelliant parhaus ar adegau o newid.

Dywedodd Jamie Parry, Rheolwr y Rhaglen Llysgenhadon Newid:

“Rydym wedi derbyn 50 o raddedigion i’r rhaglen llysgenhadon eleni, ac mae pob un ohonynt yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn yn y timau a’r sefydliadau y maent yn gweithio ynddynt. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i wneud y rhaglen llysgenhadon yn llwyddiant, ac rwy’n falch iawn eu bod yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.”

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio, rhannu a chyrchu gwybodaeth am gleifion. Yn hytrach na defnyddio dogfennau papur, gall nyrsys ddefnyddio dyfeisiau digidol i gasglu gwybodaeth a'i storio'n ddiogel yn y WNCR digidol. Yn gyntaf, safonodd tîm WNCR y ffurflenni a oedd yn cael eu defnyddio ledled y wlad, ac yna gwnaethant greu cofnodion digidol y gellid eu cyrchu wrth erchwyn y gwely ar ddyfeisiau digidol.

Mae Frances Beadle, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio, wedi bod yn dyst i’r cofnod yn tyfu o’r cynlluniau cychwynnol a’r wardiau peilot i fod ar gael yn genedlaethol bellach ar draws pob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Felindre. Dywedodd,

“Mae pawb sy’n ymwneud â chreu a rhoi’r cofnod ar waith mewn mwy na 250 o wardiau, a thros 40 o safleoedd ysbyty wedi gwneud gwaith gwych. Rydym i gyd yn hynod falch o waith a chyflawniadau’r holl arweinwyr nyrsio, y staff technegol a’r holl bobl eraill sy’n ymwneud â’r prosiect hwn – mae wedi bod yn gyflawniad gwych.

Mae Jamie Parry wedi cyrraedd rownd derfynol y categori 'Llysgennad Digidol y Flwyddyn', ac mae’r  ‘Rhaglen Llysgenhadon Newid’ yn y categori 'Prosiect y Flwyddyn'. Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol 'Tîm Digidol y Flwyddyn'. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 6 Gorffennaf.