Tachwedd 9 2023
Mae Rhian Hamer, Cyfarwyddwr Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr fawreddog diwydiant TG yn y DU 2023 am ei gwaith ysbrydoledig yn arwain un o’r newidiadau iechyd digidol mwyaf yng Nghymru.
Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at gyflymder technolegol ac yn cydnabod ymdrechion y bobl sy'n creu byd gwell gan ddefnyddio TG. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS), y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG a Chyfrifiadura.
Derbyniodd Rhian y clod ‘Unigolyn Ysbrydoledig’ am ei dull newydd o drawsffurfio ar raddfa fawr. Am y tro cyntaf yng Nghymru, sefydlodd bedair rhaglen a phrosiect cysylltiedig sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.
Fel Cyfarwyddwr Portffolio mae ei harddull cynhwysol a chydweithredol wedi ysgogi cynnydd cyflym ers sefydlu’r Portffolio ym mis Ebrill 2022, gyda’r nod o ddarparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ar draws pob lleoliad gofal yng Nghymru.
Gydag enwebeion o bob rhan o’r DU a phedwar ar y rhestr fer a phenderfynodd y beirniaid fod Rhian yn sefyll allan am ei hymrwymiad cryf i sicrhau profiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid tra’n grymuso a datblygu talent yn ei thîm.
Un enghraifft yw ei gwaith gyda chyflenwyr TG y diwydiant, sydd wedi ail greu y model darparwr prynwyr traddodiadol i gynnwys cydweithio a phartneriaeth go iawn.
Dywedodd Rhian:
“Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill, ac rwy’n ei hystyried yn anrhydedd enfawr. Er mai gwobr unigol yw hon, mae’n cynrychioli cymaint mwy megis parodrwydd y tîm i wneud pethau’n wahanol ac yn gyflym a’r partneriaethau gwirioneddol ac ystyrlon yr ydym wedi’u datblygu gyda chlinigwyr, fferyllwyr, defnyddwyr a diwydiant.”
Dywedodd Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol Portffolio:
“Mae hon yn wobr haeddiannol. Yn bersonol, ac yn broffesiynol mae Rhian wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r Portffolio. Mae hi'n unigolyn ysbrydoledig sy'n cael y gorau allan o bobl, yn annog grymuso ac yn meithrin potensial mewn eraill. Mae pawb sy'n cwrdd â hi yn cael eu hysbrydoli a'u hysgogi gan ei hymagwedd.
“Rydyn ni’n hynod falch o’r cyfan mae hi wedi’i gyflawni a’r ffordd eithriadol mae hi’n gwneud gwahaniaeth.”
Nod y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMPT) yw 'gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ddigidol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.
Mae'n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae'r Portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd: Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol, Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA), Mynediad i Gleifion (trwy ap GIG Cymru) a Chofnod Meddyginiaethau a Rennir.
Dysgwch ragor am y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol