Delwedd (o'r chwith i'r dde): Deborah OSullivan, Cerys Bicknell, Rhodri Clyburn, Hannah Wilce, Shahila Zia ac Anisa Ibrahim (tîm ePMA Caerdydd a’r Fro)
25 Mehefin 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda gweithredu rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau electronig yn llwyddiannus ar draws Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.
Digwyddodd y cyflwyniad diweddaraf o'r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau electronig (ePMA) gan y cyflenwr, Nervecentre, ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ar draws Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yr Uned Argyfwng Pediatrig ac Uned y Menywod yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae'r symudiad i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau electronig yn caniatáu i staff gofal iechyd gael mynediad at siartiau meddyginiaethau digidol, sganio band garddwrn claf i'w adnabod yn gywir, sganio codau bar meddyginiaeth, a chofnodi gweinyddiaeth meddyginiaethau'n ddigidol – a hynny i gyd heb ddefnyddio un ddalen o bapur. Mae'r newid digidol hwn yn gwella gofal cleifion, gan wneud y broses yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.
Dywedodd Daniel Rigler, Ymgynghorydd Pediatreg: "Mae cyflwyno rhagnodi electronig wedi bod yn newid a groesewir i staff ar y wardiau. Ni fydd siartiau yn mynd ar goll na llawysgrifen wael i'w dehongli mwyach! Mae'r manteision enfawr a gafwyd o gefnogaeth rhagnodi electronig, a gweinyddu meddyginiaethau'n fwy diogel wedi helpu i foderneiddio'r gofal a ddarparwn."
Dywedodd Hannah Wilce, Rheolwr Prosiect ePMA: “Mae’r gweithrediad hwn yn nodi carreg filltir bwysig i Gaerdydd a’r Fro, gydag ePMA bellach wedi’i ymgorffori’n llawn mewn ymarfer clinigol ar draws ein lleoliadau cleifion mewnol. Mae eisoes yn trawsnewid sut rydym yn darparu gofal cleifion — gan gefnogi triniaeth fwy diogel a mwy effeithiol o'r eiliad y mae cleifion yn dod i mewn i'n gwasanaethau hyd at eu rhyddhau.
“Mae’r cyflawniad hwn yn dyst gwirioneddol i ymroddiad, gwaith tîm a phenderfyniad eithriadol pawb a oedd yn rhan ohono. Mae cyflawni trawsnewidiad mor gymhleth mewn dim ond wyth mis yn gamp anhygoel, ac un y dylai'r tîm fod yn hynod falch ohoni. Mae arbenigedd a phartneriaeth cydweithwyr yn IGDC a Nervecentre hefyd wedi bod yn hanfodol i’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn a gwireddu’r llwyddiant hwn.”
Ymwelodd Ffion Thomas, Uwch Wybodegydd Clinigol (Nyrs Feddyginiaethau) yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), â'r Uned Argyfwng Pediatrig i arsylwi'r cyfnod mynd yn fyw. Wrth fyfyrio ar y diwrnod, dywedodd Ffion: “Roedd yn ardderchog gweld yr Uned Argyfwng Pediatrig mynd yn fyw gydag ePMA, gan y bydd yn golygu trosglwyddo a phontio llyfn i nyrsys sy'n trosglwyddo cleifion o fan hyn i wardiau pediatrig eraill yn yr ysbyty. Mae hefyd yn dod â'r Uned Argyfwng Pediatrig yn unol â'r Adran Argyfwng i oedolion sydd wedi bod yn defnyddio ePMA ers ychydig fisoedd yn llwyddiannus.
“Fel nyrs bediatrig fy hun, roedd yn bleser siarad â nyrsys ar draws yr ysbyty plant a oedd yn gadarnhaol am y newid ac wedi cyffroi i fod yn defnyddio'r system, gan nodi'r manteision diogelwch cleifion mae’n cynnig.”
Mae'r gweithrediad diweddaraf hwn yn adeiladu ar gyfres o ymgyrchoedd mynd yn fyw llwyddiannus dros y misoedd diwethaf ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae hyn yn cynnwys ar draws Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Tachwedd, o fewn yr Uned Achosion Brys, Ysbyty Prifysgol Llandochau ym mis Ionawr ac ar draws lleoliadau Iechyd Meddwl ym mis Mawrth.