Chwefror 6ed 2024
Mae gwasanaeth digidol newydd a lansiwyd yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn gwella gwasanaethau cardioleg.
Mae’n disodli’r system bapur bresennol ar gyfer anfon a derbyn ceisiadau am brofion cardioleg ac mae wedi bod yn fanteisiol i feddygon, nyrsys, rheolwyr a chleifion.
Esboniodd rheolwr y gwasanaeth Mike Henson:
“Gyda’r broses bapur gallai fod problemau gyda dehongli, gallen ni dderbyn ceisiadau amhriodol, a doedd dim cysondeb i’r data. Mae’r system electronig newydd yn egluro hynny i gyd.
“Mae yna feysydd ar y ffurflenni digidol y mae’n rhaid eu llenwi er mwyn cyflwyno, a does dim rhaid i ni geisio dehongli llawysgrifen wael. Mae’n golygu ein bod ni’n derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniadau gwybodus iawn ynghylch pryd mae angen blaenoriaethu profion cleifion.”
Mae derbyn gwybodaeth gliriach o ansawdd gwell hefyd yn golygu y gellir prosesu'r profion yn gyflymach. Byddai’n rhaid i’r Adran Gardioleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru aros am o leiaf diwrnod, neu hyd yn oed yn hirach, i dderbyn ceisiadau am sganiau ac apwyntiadau eraill. Gallai'r ceisiadau ddod i mewn gan unrhyw adran yn yr ysbyty, yn ogystal â chlinigau allgymorth a chymunedol, a byddai'n rhaid defnyddio post mewnol yn flaenorol. Gallai fod yn rhaid i staff chwilio am gopïau sydd wedi mynd ar goll yn y post. Ond gyda'r system electronig, mae'r ceisiadau'n cael eu derbyn ar unwaith.
“Mae’r buddion yn sylweddol” meddai Mike, “Mae’n arbed amser, mae’n well i’r claf, mae’n lleihau’r arosiadau sydd gan gleifion, ac mae’n well i ni, o safbwynt brysbennu gallwn ni fod yn fwy effeithiol. Mae’n gwella profiad y claf, ac mae hefyd yn helpu ein targedau atgyfeirio at driniaeth (RTT).
Mae’r swyddogaeth cais am brawf wedi’i hintegreiddio i Borth Clinigol Cymru (WCP) – gan ychwanegu mwy o opsiynau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n defnyddio’r porthol.
Dywedodd y Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Jason O'Neill fod yr ychwanegiad at y porth wedi creu argraff arno:
“Mae wedi bod yn hollbwysig gallu gofyn am sgan yn electronig. Mae'n newid sylweddol o ffurflenni papur. Porth Clinigol Cymru yw’r lle cywir ar gyfer hyn. Mae manteision mawr i gael un porth, ac mae’n werth y gwaith i wneud iddo ddigwydd.”
Mae’r rhai sy’n gwneud cais am brofion hefyd yn gallu gweld, trwy Borth Clinigol Cymru, pryd a pha brofion y gofynnwyd amdanynt ar gyfer eu cleifion – a gallant osgoi archebu profion dyblyg neu ddiangen. Mae ymgynghorwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn clinigau hefyd yn dechrau gweld eu harbedion amser eu hunain o gymharu â gorfod llenwi ffurflenni papur yn flaenorol.
Dywedodd Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Navroz Masani:
“Mae'n hawdd iawn ac yn reddfol i'w ddefnyddio. Rwy’n meddwl i’r gwaith fod yn wych.”
Bydd cam nesaf y prosiect yn gweld y swyddogaeth Gwneud Cais am Brofion Electronig ar gael i fwy o ddefnyddwyr Porth Clinigol Cymru ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, ac yna bydd y swyddogaeth yn cael ei chyflwyno’n ehangach i fwy o fyrddau iechyd.